Mae Cyngor Môn wedi cadarnhau eu bod wedi cwblhau’r broses o roi caniatâd cynllunio i ddatblygiad hamdden Land & Lakes ar yr ynys.

Fe fydd y fenter gwerth £120m yn cynnwys cannoedd o gabannau a bythynnod newydd fydd yn rhan o bentrefi gwyliau yn ardal Caergybi, yn rhannol ar hen dir Alwminiwm Môn.

Fel rhan o’r telerau mae’n rhaid i’r datblygwyr hefyd gyfrannu £20m tuag at liniaru effeithiau posib ar yr ardal leol, gan gynnwys rhai amgylcheddol.

Mae disgwyl i rywfaint o’r llety newydd gael ei neilltuo hefyd ar gyfer gweithwyr fydd – o bosib – yn adeiladu atomfa niwclear Wylfa Newydd ger Amlwch.

‘Swyddi lleol’

Bwriad cwmni Land & Lakes yw adeiladu pentref gwyliau gyda 500 o gabannau a bythynnod ym Mharc Arfordirol Penrhos, 315 o gabanau yng Nghae Glas, a hyd at 320 o unedau yn Kingsland.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Môn, Gwynne Jones, mai dyma’r cais cynllunio mwyaf y mae’r cyngor sir erioed wedi’i ystyried.

“Rydym yn obeithiol y daw’r prosiect â buddion economaidd hirdymor i’r Ynys gyfan ac y bydd yn gam positif tuag at drawsnewid ein heconomi mewn modd cynaliadwy,” meddai Pennaeth y Gwasanaeth Adfywio Economaidd a Chymunedol, Dylan J Williams.

“Mae’r datblygwr yn ymroddedig i sicrhau y bydd o leiaf 80% o’r swyddi gweithredol yn mynd i bobl leol ac mae graddfa’r cynllun yn golygu y bydd yn cefnogi nifer o fusnesau lleol, yn uniongyrchol a thrwy’r gadwyn gyflenwi.”