Deunydd insiwleiddio cyffredin (Radomil CCA3.0)
Mae elusen WWF Cymru’n dweud y bydd sicrhau cartrefi cynnes sydd wedi’u hinswleiddio’n dda yn brawf allweddol o ymrwymiad Llywodraeth nesaf Cymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

“Mae gwneud yn siŵr bod gan bawb yng Nghymru gartref cynnes sydd wedi’i inswleiddio’n dda yn un o’r camau pwysicaf i Lywodraeth nesaf Cymru ar ôl yr etholiadau ar 5 Mai,” meddai Jessica McQuade, Swyddog Polisi WWF Cymru.

Fe rybuddiodd y byddai angen “buddsoddi sylweddol” i sicrhau hynny ond y byddai’n talu yn y pen draw, o ran iechyd, swyddi a’r amgylchedd.

Oherwydd hynny, meddai, fe ddylai gael blaenoriaeth wrth i’r Llywodraeth nesa’ benderfynu ar wario i wella isadeilaedd Cymru.

“Bydd gweithredu ar effeithlonrwydd ynni cartrefi’n brawf allweddol i weld a yw Llywodraeth nesaf Cymru o ddifrif ynghylch cyflawni’r agenda hon.”