Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal prawf yn Llyn Padarn, Llanberis.
Mae hi’n “chwerthinllyd” mai dim ond un o’r 12 o aelodau ar Fwrdd Rheoli’r corff Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n medru siarad Cymraeg.

Dyna farn Cymdeithas yr Iaith sy’n mynnu bod cwestiynau i’w gofyn am y modd y penodwyd pump aelod newydd i’r Bwrdd fis Tachwedd y llynedd.

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y penodiadau i’r corff sy’n gyfuniad o’r hen Gyngor Cefn Gwlad, y Comisiwn Coedwigaeth ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

Ac mae’r Llywodraeth yn mynnu ei bod wedi dilyn ei Chynllun Iaith wrth benodi’r aelodau newydd.

Hysbysebu– Cymraeg ‘dymunol’

Fe gafodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ei ffurfio dair blynedd yn ôl ac mae’n cael £180 miliwn o arian y trethdalwr i gyflogi dros 2,000 o staff ledled Cymru, gyda’u chwarter nhw’n medru siarad Cymraeg.

Y llynedd roedd Llywodraeth Cymru yn hysbysebu am bump aelod newydd i fod ar y Bwrdd Rheoli, gyda’r gallu i siarad y Gymraeg yn ddymunol.

Wrth asesu’r anghenion ieithyddol roedd y Llywodraeth wedi datgan eu bod yn anelu at recriwtio o leiaf dau siaradwr Cymraeg rhugl i fod ar y Bwrdd Rheoli.

Hefyd roedden nhw’n nodi yn eu hasesiad: ‘Whilst unlikely, there would be significant adverse effect if none of the appointed candidates could speak Welsh’.

Ym mis Tachwedd y llynedd fe benodwyd pump aelod newydd i’r Bwrdd, gyda’r un ohonyn nhw’n medru siarad Cymraeg.

Yr unig un ar y Bwrdd Rheoli sy’n medru siarad Cymraeg yw Prif Weithredwr CNC, Dr Emyr Roberts o Fenllech ym Môn.

Ond mae “rhai eraill yn dysgu ar hyn o bryd” meddai mewn datganiad i gylchgrawn Golwg.

“Rydym yn cefnogi ein gweithwyr ac aelodau’r Bwrdd sydd am ddysgu Cymraeg.”

Lambastio

Mae Cymdeithas yr Iaith yn mynnu bod gan Carl Sargeant, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol yn Llywodraeth Cymru a fu’n gyfrifol am y penodiadau, “gwestiynau difrifol” i’w hateb.

“Mae’n debyg nad yw’r Gymraeg yn rhan o ‘gyfoeth’ Cymru yn ôl Gweinidog ein gwlad,” meddai Manon Elin, cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Dylai fod yn fater o gryn embaras bod hyn wedi digwydd. Wedi’r cyfan, maen nhw eu hunain yn cyfaddef bod penodi pump aelod newydd i’w bwrdd nad ydynt yn siarad Cymraeg yn ‘anodd i amddiffyn’. Pam fyddai’r Gweinidog yn mynd yn erbyn yr asesiad? Mae angen i ni wybod pam. Mae cael un siaradwr Cymraeg yn unig ar y bwrdd yn chwerthinllyd. Byddwn yn ysgrifennu at y Llywodraeth nesaf i ofyn iddynt sicrhau y bydd y penodiadau nesaf i’r Bwrdd yn cael eu hysbysebu fel Cymraeg hanfodol er mwyn sicrhau corff sy’n adlewyrchu cyfoeth diwylliannol Cymru.”

Llywodraeth yn cyfiawnhau

Meddai llefarydd Llywodraeth Cymru: “Roedd ystyried sgiliau yn y Gymraeg a oedd yn ofynnol i’r swyddi yn rhan allweddol o’r broses recriwtio, ac yn cael eu hystyried wrth baratoi’r disgrifiad swydd a’r manyleb person.  Roedd hefyd yn rhan o’r broses gyfweld – roedd sgiliau yn y Gymraeg yn cael eu cofnodi ar adroddiad y bwrdd ar y cyfweliadau.  Bu inni ddilyn canllawiau ein Cynllun Iaith Gymraeg drwy gydol y broses.”

Mwy am bump aelod newydd di-Gymraeg Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.