Arfon Jones - dim sylw pellach ar hyn o bryd (llun Plaid Cymru)
Mae Plaid Cymru wedi mynnu bod gan eu hymgeisydd ar gyfer etholiad Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru eu “cefnogaeth lawn”, ar ôl i gyn-arweinydd y blaid gefnogi’r gwrthwynebydd Llafur.

Ar ôl gwneud datganiad yn gofyn i bobol bleidleisio i’r ymgeisydd Llafur, mae Dafydd Elis-Thomas wedi dweud wrth Golwg ei fod bellach “dan orchymyn” i beidio â gwneud sylwadau pellach.

Dyw ymgeisydd Plaid Cymru, Arfon Jones, ddim am wneud sylwadau pellach ar hyn o bryd chwaith, meddai yntau.

Trwbwl

Bydd Dafydd Elis-Thomas yn debygol o fod mewn trwbwl â’i blaid unwaith yn rhagor ar ôl dweud y dylai pobol bleidleisio dros yr ymgeisydd Llafur, David Taylor, yn hytrach nag ymgeisydd Plaid Cymru Arfon Jones.

Eisoes, mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi datganiad gan eu cadeirydd Alun Ffred Jones yn mynnu bod gan eu hymgeisydd nhw “ei gefnogaeth lawn”.

Ac mae dau o ASau’r Blaid hefyd wedi trydar eu cefnogaeth.

‘Neb â gwell cymwysterau’

Yn ei sylwadau fe awgrymodd Dafydd Elis-Thomas, sydd yn ymgeisydd dros Blaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd yn etholiadau’r Cynulliad, y dylai pobol bleidleisio’n dactegol dros yr ymgeisydd Llafur yn etholiadau’r Comisiynydd er mwyn atal UKIP.

Mynnodd Plaid Cymru fodd bynnag nad oedd “unrhyw un â gwell cymwysterau” nag Arfon Jones i sicrhau diogelwch i gymunedau’r gogledd.

“Fel cyn arolygwr heddlu, mae Arfon yn deall heddlua ac fe fydd yn gweithio â swyddogion heddlu a’r cyhoedd er mwyn cyflawni dros ein cymunedau,” meddai Alun Ffred Jones.

“Cafodd Arfon ei eni yng Ngwynedd, mae wedi gweithio ar draws y rhanbarth fel plismon uchel ei barch a bellach yn byw fel cynghorydd yn Wrecsam. Mae ei gymwysterau’n ddiedliw ac rwy’n falch o roi fy nghefnogaeth lawn iddo.”

Diolch gan David

Mae Llafur wedi bod yn ddigon sydyn i rwbio halen yn y briw fodd bynnag yn dilyn y trafferthion diweddaraf rhwng Dafydd Elis-Thomas a’i blaid ei hun.

Gyda’i dafod yn ei foch fe awgrymodd Lee Waters, yr ymgeisydd Llafur yn Llanelli yn etholiadau’r Cynulliad, y dylai’r pleidiau eraill ddod at ei gilydd i achub y gwleidydd rhag ei “elynion mewnol”.

Ac mae David Taylor ei hun hefyd wedi ymateb, gan drydar neges yn diolch i Dafydd Elis-Thomas am ei gefnogaeth.