Dafydd Elis-Thomas (Llun Plaid Cymru)
Fe allai cyn-arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Elis-Thomas, wynebu camau disgyblu unwaith eto ar ôl galw am gefnogaeth i’r ymgeisydd Llafur yn etholiad Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru.

Mae ymgeisydd y Blaid ym Nwyfor Meirionnyd wedi galw ar gefnogwyr yr holl brif bleidiau yn y Gogledd i roi un o’u dwy bleidlais i’r ymgeisydd Llafur, David Taylor.

Hynny, meddai, er mwyn rhwystro ymgeisydd UKIP rhag ennill ar y slei, wrth i bleidlais eu hymgeisydd gael ei chwyddo yn sgil etholiadau’r Cynulliad.

ASau’n cefnogi Arfon

Lai na blwyddyn yn ôl, fe gafodd Dafydd Elis-Thomas ei ddisgyblu gan ei blaid ar ôl beirniadu ei hymgyrch yn yr Etholiad Cyffredinol.

Anodd yw’r berthynas rhyngddo ac arweinydd y Blaid, Leanne Wood, a’r disgwyl yw y bydd yn wynebu rhagor o gamau disgyblu wedi’r etholiad.

Ac mae rhai o ffigurau amlwg eraill Plaid Cymru eisoes wedi ymateb trwy gyhoeddi negeseuon trydar yn cefnogi ymgeisydd Plaid Cymru, Arfon Jones.

Yn ôl yr ASau, Jonathan Edwards a Liz Saville-Roberts, y cyn-arolygydd heddlu sy’n by wyn Wrecsam yw’r dewis gorau.


Anogaeth i feddwl yn dactegol

Mae Dafydd Elis-Thomas yn dweud bod rhaid i bleidleiswyr y Gogledd feddwl yn dactegol yn etholiad y Comisiynydd Heddlu.

Mae’r ymgeisydd Llafur, David Taylor, yn cael ei ddyfynnu gan mediawales yn croesawu ymyrraeth Dafydd Elis-Thomas.

Roedd y gŵr a fu’n arweinydd y Blaid yn yr 1980au wedi cefnogi’r ymgeisydd Llafur y tro diwetha’ hefyd yn 2011 ond bryd hynny doedd gan Blaid Cymru ddim ymgeisydd.