Comisiynydd - gawl am gyfarfod brys (Llun y swyddfa)
Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn cysylltu â chwmni Starbucks i ofyn am gyfarfod brys yn dilyn honiadau bod cwsmer yn eu siop goffi yn Aberystwyth wedi cael gorchymyn i “siarad Saesneg neu adael” gan aelod o staff.

Yn ôl datganiad ar ran swyddfa’r Comisiynydd, fe fydd yn “pwysleisio statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru a’r sefyllfa gyfreithiol ynglŷn â pheidio ag ymyrryd â rhyddid pobol i ddefnyddio’r Gymraeg â’i gilydd.

“Bydd yn gofyn am gyfarfod brys i drafod y mater.”

Galw am y sac

Fe ddaeth y digwyddiad i’r amlwg ddoe wedi i Gwawr Edwards, sydd yn gantores soprano glasurol ac yn gyn-enillydd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen,  ddweud ei bod hi wedi bod yn dyst i’r digwyddiad.

Yn ôl y gantores, sydd yn wreiddiol o Geredigion, roedd hi’n “warth” fod yr aelod o staff wedi ceryddu’r cwsmer am geisio archebu coffi yn y Gymraeg.

Mae’r digwyddiad eisoes wedi cael ei feirniadu gan ymgyrchwyr iaith ac mae’r actor, Julian Lewis Jones, wedi trydar i alw ar i Starbucks ddiswyddo’r “diawl”.

Mae Starbucks wedi dweud eu bod yn ymchwilio i’r mater.