'Bob', y cymeriad gafodd ei ddefnyddio gan S4C i hyrwyddo'r ymgyrch is-deitlau (llun: S4C)
Mae S4C wedi dweud fod nifer eu gwylwyr wedi cynyddu yn ystod yr wythnos pan fu is-deitlau Saesneg gorfodol ar y sianel – er bod rhai gwylwyr wedi bygwth boicot.

Dywedodd y sianel wrth golwg360 fod y ffigyrau gwylio 13% yn uwch na’r wythnos flaenorol yn ystod y pum niwrnod rhwng 29 Chwefror a 4 Mawrth pan fu’r ymgyrch yn rhedeg.

Bu tipyn o anghydfod ymysg rhai ar ôl i’r darlledwr gyhoeddi y bydden nhw’n gosod yr is-deitlau Saesneg gorfodol ar rai rhaglenni, gydag ambell un yn dweud na fydden nhw’n gwylio S4C am wythnos mewn protest.

Ond fe ddenodd yr ymgyrch, oedd â’r bwriad o godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth, gefnogaeth eraill – a dyw hi ddim yn ymddangos fel bod y ffrae wedi creu tolc yn nifer y gwylwyr.

Cynnydd ymysg y di-Gymraeg

Yn ôl y ffigyrau gan S4C cafodd y sianel 243,000 o wylwyr yn y pum niwrnod y bu’r ymgyrch yn rhedeg, i fyny o 215,000 o’i gymharu â’r wythnos flaenorol, 22 i 26 Chwefror.

Gwelwyd cynnydd bychan o 4% ymysg Cymry Cymraeg, gyda 136,000 yn gwylio yn ystod wythnos yr is-deitlau o’i gymharu â 131,000 yr wythnos gynt.

Ond roedd y cynnydd mwyaf ymysg gwylwyr di-Gymraeg, gyda chynnydd o 27% yn y niferoedd, o 84,000 i 107,000.

Fodd bynnag, roedd cyfanswm y gwylwyr ar gyfer ugain rhaglen fwyaf poblogaidd S4C yn ystod yr wythnos fymryn yn is na’r arfer – yr unig dro i’r ffigwr ddisgyn yn o dan 600,000 eleni.

‘Dim isdeitlau parhaol’

Dyw S4C ddim wedi dweud eto a ydyn nhw’n credu bod y ffigyrau gwylio yn gysylltiedig â’r wythnos pan gafwyd yr is-deitlau.

Ond fe bwysleisiodd y sianel mai ymgyrch i godi ymwybyddiaeth yn unig oedd hi, nid ‘arbrawf’ fel yr oedd rhai wedi’i ddisgrifio, ac nad oedd cynlluniau i’w hailadrodd.

“Nod yr ymgyrch bum niwrnod ar ddiwedd mis Chwefror a dechrau Mawrth oedd codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth isdeitlau Saesneg,” meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C.

“Mae hwn yn wasanaeth sydd ar gael bob dydd, gydol y flwyddyn, ar gyfer y rhai sy’n dymuno ei ddefnyddio er mwyn gallu mwynhau cynnwys Cymraeg ar blatfformau S4C.

“Nid oes bwriad cyflwyno isdeitlau agored parhaol ar raglenni S4C.”