Y Gwyll Llun: S4C
Mae tri chynhyrchiad ar gyfer S4C wedi ennill gwobrau yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Rhyngwladol Efrog Newydd eleni.

Cipiodd ‘Y Gwyll/Hinterland’ y brif wobr, sef y ‘Grand Award’ – gwobr sy’n cael ei rhoi i ddetholiad bychan o raglenni sydd wedi derbyn sgôr uchel gan y beirniaid ar draws yr ŵyl gyfan.

Cafodd y seremoni ei chynnal yn Las Vegas ddydd Mawrth, gyda 50 o wledydd yn cystadlu am y gwobrau.

Roedd ‘Y Gwyll/Hinterland’, sy’n gynhyrchiad gan Fiction Factory, yn cystadlu ag ‘Earth is Yours’ (BBC Worldwide/Singapore) a ‘The Roosevelts: An Intimate History’ (PBS / UDA).

Mae ‘Y Gwyll’ hefyd wedi ennill y Fedal Aur yn y categori Drama Drosedd.

Mae’r cast a’r criw wrthi’n ffilmio’r drydedd gyfres ar hyn o bryd, ac mi fydd yn cael ei dangos ar S4C yn yr hydref ac yn hwyrach ar BBC.

Medalau arian ac efydd – a chydnabyddiaeth

Derbyniodd ‘Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle’ gan Boom Cymru fedal arian yn y categori Chwaraeon a Hamdden.

Mae’r ffilm yn dilyn y ddau ddringwr o Wynedd wrth iddyn nhw fynd ar daith i’r Ariannin.

Enillodd ‘Dagrau o Waed: Rhyfel Corea’ fedal efydd yn y categori Materion Cenedlaethol/Rhyngwladol, a hynny am adrodd atgofion dau gyn-filwr fu’n brwydro yn Rhyfel Corea, Meirion Davies o Frynaman a Young-Bok Yoo o Dde Corea.

Cafodd ei chyd-gynhyrchu gan S4C, Awen Media a JTV yng Nghorea.

Roedd clod arbennig hefyd i’r gyfres ‘Llond Ceg’, cyfres gan Green Bay Media ar gyfer pobol ifanc.

‘Y flwyddyn orau eto’

 

Mewn datganiad, dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys mai hon yw’r “flwyddyn orau eto” i S4C yn y Gwobrau yn Efrog Newydd.   

“Unwaith eto, mae gwaith a chreadigrwydd y sector gynhyrchu yng Nghymru wedi dal sylw’r byd ac yn dod â bri rhyngwladol i Gymru a’r gwaith gwych sy’n digwydd yma. Da iawn bawb.”

Yn 2015, roedd medal Efydd i Adam Price a Streic y Glowyr (Tinopolis) a medal Arian i Gwirionedd y Galon: Dr John Davies (Telesgop). Yn 2014 fe enillodd Taith Fawr y Dyn Bach (Cwmni Da) Wobr Arian, a’r rhaglen Karen (Cwmni Da) Wobr Efydd. Ac yn 2013 roedd Gwobr Aur i Fy Chwaer a Fi (Bulb Films, rhan o Boom Pictures Cymru).