Mae elusen ganser wedi rhybuddio bod bywydau’n cael eu colli yn sgil oedi cyn cyflwyno profion sgrinio newydd ar gyfer canser y coluddyn yng ngwledydd Prydain.
Ar hyn o bryd, dim ond 50% o’r bobol yng Nghymru sydd â’r hawl i gael profion sydd ar gael ar hyn o bryd sy’n eu cael nhw, o’i gymharu â 58% yn Lloegr.
60% yw’r targed yng Nghymru, ond nid yw’r un o’r byrddau iechyd yng Nghymru wedi bwrw’r targed hyd yn hyn.
Powys (52.5%) sydd â’r lefel uchaf o brofion.
Mae gan Brifysgol Hywel Dda lefel o 51.7%, tra bod Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Phrifysgol Aneurin Bevan wedi cyrraedd lefel o 51%.
50.8% yw’r lefel yng Nghwm Taf, tra bod Caerdydd a’r Fro ar ei hôl hi ar 48.8%.
Dywedodd 88% o bobol yng Nghymru a gafodd eu holi eu bod nhw’n ymwybodol bod modd iddyn nhw gael eu sgrinio.
Dywedodd 86% eu bod nhw’n deall y gallai sgrinio rheolaidd leihau’r perygl o farw o ganser y coluddyn, tra bod 77% wedi dweud y dylid cael prawf hyd yn oed heb symtomau.
Cafodd y lefelau eu mesur rhwng Ebrill 2014 a Mawrth 2015, a’u cyhoeddi ym mis Ionawr.
Beirniadu
Mae elusen Bowel Cancer UK wedi beirniadu llywodraethau Cymru a Gogledd Iwerddon am yr oedi cyn cyflwyno profion mwy syml a allai gynyddu lefel y bobol sy’n cael eu sgrinio ar gyfer y salwch.
Cafodd y profion FIT newydd eu cymeradwyo dri mis yn ôl gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, ond dydy’r profion ddim wedi cael eu cyflwyno hyd yma.
Yn Lloegr, roedd y lefel sgrinio mewn rhai ardaloedd mor isel â 33%, tra mai 58% yw’r cyfartaledd cenedlaethol yno.
Yn Llundain ar y cyfan y mae’r lefelau isaf yn Lloegr.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r prawf newydd yn cael ei ddefnyddio mewn achosion lle mae angen profion pellach, ond dydy e ddim ar gael fel prawf cychwynnol o hyd.
Serch hynny, mae’r prawf ar gael i gleifion ledled y byd, gyda’r Eidal, yr Iseldiroedd, Ffrainc, Iwerddon, Seland Newydd, Awstralia, Sbaen a Japan ymhlith y gwledydd sydd eisoes yn ei gynnig i gleifion.
Arweiniodd cyfnod peilota yn Lloegr at gynnydd o 10% yn nifer y bobol a gafodd eu sgrinio.
‘Peryglu bywydau’
Yn ôl prif weithredwr Bowel Cancer UK, Deborah Alsina, gallai’r prawf newydd achub llawer iawn mwy o fywydau.
Mewn datganiad, dywedodd: “Y ffordd orau o wella lefelau sgrinio yw trwy gyflwyno FIT.
“Mae’r prawf wedi cael ei brofi i fod yn fwy cywir ac yn haws i bobol ei gwblhau.
“Fodd bynnag, dydy’r llywodraeth na’r ddau gynulliad ddim wedi cymeradwyo argymhelliad yr UKNSC o hyd, dri mis ar ôl ei gyhoeddi.
“Mae sgrinio ar gyfer canser y coluddyn yn achub bywydau felly rhaid i ni sicrhau bod rhagor o bobol yn cwblhau ac yn dychwelyd y prawf pan fyddan nhw’n ei dderbyn drwy’r post.
“Gall sgrinio ddarganfod canser y coluddyn yn gynnar lle nad oes gan bobol symptomau ar adeg pan fo’n haws i’w drin.”
Ychwanegodd na ddylid “peryglu bywydau yn y ffordd yma”, a bod sgrinio’n “rhan o’r ateb”.
Dywedodd Stephen Halloran o Brifysgol Surrey, fu’n cwblhau ymchwil i’r profion mai pobol sydd yn lleiaf ymwybodol o faterion iechyd, pobol o grwpiau cymdeithasol is, dynion a phobol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol sydd lleiaf tebygol o gael eu sgrinio.
Mae 16,200 o bobol yn marw o ganser y coluddyn yng ngwledydd Prydain bob blwyddyn, ond mae bron pawb sy’n cael eu trin yn gynnar yn goroesi.
Dim ond 6% sy’n ei oroesi os ydyn nhw’n cael eu trin yn yr ysbyty fel cleifion brys.