Ar ei ymweliad â Downing Street, mae Arlywydd Indonesia a Phrif Weinidog Prydain wedi arwyddo cytundeb gwerth bron i £1 biliwn i foderneiddio awyrennau sy’n teithio i’r wlad yn ne-ddwyrain Asia.

Daw’r cytundeb wrth i bwysau ddod ar David Cameron i godi materion hawliau dynol ar yr Arlywydd Joko Widodo yn dilyn sawl achos diweddar o ddienyddio yn y wlad.

Bydd y cytundeb newydd â Rolls Royce ac Airbus yn sicrhau swyddi i weithwyr ym Mrychdyn, yn Sir y Fflint ac yn Filton, ger Bryste.

Record hawliau dynol Indonesia

Er hyn, mae’r Amnest Rhyngwladol wedi galw ar y Prif Weinidog i bwyso ar Indonesia am ei record hawliau dynol, gan godi enghraifft dynes 59 oed o Loegr, sydd wedi’i dedfrydu i farwolaeth yno.

Mae Lindsay Sandiford, cyn ysgrifenyddes gyfreithiol o Cheltenham, wedi’i chyhuddo o geisio smyglo cyffuriau ac mae wedi bod ar res angau Indonesia ers 2013.

‘Ymladd brawychiaeth’

Doedd yr un o’r arweinwyr heb ateb cwestiynau wrth iddyn nhw gael ymddangos yn Downing Street ond fe wnaeth David Cameron ganmol Indonesia am frwydro yn erbyn brawychiaeth.

“Rydym eisoes wedi trafod y cwestiwn hanfodol ar sut rydym yn brwydro yn erbyn eithafiaeth a brawychiaeth ledled y byd, a dwi’n meddwl bod gan Indonesia rôl hanfodol i chwarae fan hyn,” meddai.

“Mae’r ffordd mae Indonesia yn brwydro yn erbyn brawychiaeth ac eithafiaeth ac yn amddiffyn Islam wedi creu tipyn o argraff arnaf.”