Y ty lle cafodd Rita Stephens ei llofruddio gan ei mab, Mark Stephens ym Mhencoed
Mae dyn busnes wedi cael ei garcharu am oes am drywanu ei fam i farwolaeth gyda chyllell ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Fe ymosododd Mark Stephens, 44, ar ei fam Rita Stephens, 67, yn eu cartref ym Mhencoed ar 19 Mehefin 2015 ar ôl iddo fod yn yfed. Roedd hi wedi ei feirniadu am y modd roedd yn rhedeg busnes y teulu.

Dywedodd Mark Stephens wrth Lys y Goron Abertawe ei fod wedi ymosod arni ar ôl colli ei dymer yn dilyn ffrae am ddyledion y busnes.

Clywodd y llys bod gan Rita Stephens 38 o anafiadau ar ei chorff.

Roedd wedi cyfaddef cyhuddiad o ddynladdiad ond wedi gwadu ei llofruddio.

Cafwyd Stephens yn euog o lofruddiaeth a’i garcharu am isafswm o 20 mlynedd.