Mae undeb yr NFU wedi dweud y byddai ffermwyr Prydain ar eu hennill o aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd (UE).

Daw hyn wedi i arweinwyr yr undeb yng Nghymru a Lloegr ddod ynghyd ar gyfer cyfarfod y Cyngor, lle wnaethon nhw ystyried adroddiad gafodd ei lunio gan Brifysgol Wageningen yn yr Iseldiroedd i effaith gadael yr UE ar y sector amaethyddol.

Ar ôl ystyried ffactorau fel mynediad at y farchnad sengl, cymorthdaliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC), gwyddoniaeth ac ymchwil amaethyddol, y gadwyn fwyd ehangach a manteision i’r gweithlu, fe benderfynon nhw mai aros oedd y dewis gorau.

Ond, fydd yr undeb ddim yn ymgyrchu nac yn dylanwadu ar eu 55,000 o aelodau i bleidleisio naill ffordd na’r llall.

‘Sialens fawr’

Yn ôl Llywydd Cenedlaethol yr NFU, Meurig Raymond sy’n ffermwr o Sir Benfro, roedd yr arolwg a gomisiynwyd yn dangos bod 20% o’r ffermwyr a gymerodd ran yn dymuno gadael yr UE, tra bo 35% i 50% yn dymuno aros, a’r gweddill heb benderfynu eto.

Dywedodd mai dyma’r “mater pwysica’ y mae ffermwyr Prydain mwy na thebyg wedi’i wynebu yn y 25 i 30 mlynedd diwethaf.”

Esboniodd fod cael mynediad at y farchnad sengl yn bwysig oherwydd, “rydyn ni’n allforio llawer o ddefaid, gwenith a barlys, cig eidion a chynnyrch llaeth.

“Ond, os ydyn ni’n aros yn Ewrop, mae’r hyn sy’n digwydd yn y blynyddoedd nesaf yn mynd i fod yn bwysig. Dy’n ni wedi dadlau dros ddiwygio, ac mae ’na nifer o faterion yn Ewrop sy’n cael eu penderfynu ar sail emosiwn yn hytrach na gwyddoniaeth,” meddai.

Am hynny, dywedodd fod “sialens fawr yn wynebu’r NFU i geisio gwthio am newid i’r UE” beth bynnag fydd yn digwydd wedi’r refferendwm ar Fehefin 23.