Kirsty Williams
Yn y cyntaf mewn cyfres o gyfweliadau ag arweinwyr y pleidiau yng Nghymru cyn etholiadau’r Cynulliad, Iolo Cheung fu’n holi Kirsty Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol

Digon truenus fu’r polau piniwn yn ddiweddar i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru – a hynny’n ddim byd newydd, wrth gwrs.

Fe awgrymodd yr arolwg diweddaraf mai dim ond dau o Aelodau Cynulliad y blaid allai fod yn weddill wedi’r etholiad ym mis Mai, gan adlewyrchu patrwm siomedig o gyson iddynt dros y misoedd diwethaf.

Nid fod hynny’n digalonni Kirsty Williams, arweinydd y blaid ers 2008 ac sydd yn disgwyl dychwelyd fel AC Brycheiniog a Sir Faesyfed.

Mae ei phlaid wedi bod yma o’r blaen, gyda’r polau yn darogan gwae iddyn nhw nôl yn 2011 yn dilyn ffurfio Llywodraeth Glymblaid gyda’r Ceidwadwyr yn San Steffan, gan lwyddo i gadw pum sedd a cholli dim ond un.

A hynny sydd yn cynnal y tân ym mol yr arweinydd – fod y gwaethaf drosodd, ac na fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cael eu cosbi gan yr etholwyr yn y modd y gwnaethon nhw yn yr etholiad cyffredinol y llynedd.

“Does neb yn credu yn y polau bellach,” mynnodd Kirsty Williams wrth golwg360.

“Pum mlynedd yn ôl roedd y newyddiadurwyr yn darogan y gwaethaf i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru. Fe wnaethon ni’n well na’r disgwyl bryd hynny, a dw i’n siŵr y gwnawn ni hynny eto eleni.

“Dw i wedi bod o gwmpas digon hir i wybod nad oes modd darogan etholiadau. Beth rydyn ni yn ei wybod yw, ar ôl Llafur yn arwain y llywodraeth am 17 mlynedd yma yng Nghymru, dyw llawer o bobol jyst ddim yn teimlo fel bod y Cynulliad yn gweithio iddyn nhw.”

Cydweithio a chyfaddawdu

Digon gwir, byddai rhai yn dweud – dyw’r llywodraeth Lafur presennol ym Mae Caerdydd ddim yn agos at fod mor boblogaidd ag y bu hi mewn blynyddoedd cynharach.

Ond dyw hynny ddim yn golygu fod Kirsty Williams yn debygol o ddisodli Carwyn Jones fel Prif Weinidog fis nesaf. Beth felly yw pwrpas y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd?

“Rydyn ni wedi gwrando’n astud ar beth mae pobol eisiau i’w llywodraeth nesaf ei wneud,” mynnodd yr arweinydd.

“Os yw pobol eisiau sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o nyrsys ar eu wardiau a’u cymunedau, os ydyn nhw eisiau i’w plant gael eu dysgu mewn dosbarthiadau llai gyda mwy o adnoddau, ac os yw pobol eisiau economi o gyfleoedd sy’n rhoi cyfle iddyn nhw ffynnu, nid dim ond goroesi, yna pleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol yw’r ffordd o sicrhau hynny.”

Ym maes iechyd mae buddsoddi mewn mwy o nyrsys ac adnoddau, ei gwneud hi’n haws i bobol weld eu meddyg teulu, a gwella darpariaeth gofal iechyd meddwl eisoes yn rhai o brif addewidion y blaid.

Fe all Kirsty Williams hefyd gyfeirio at y bil gafodd ei gyflwyno ganddi hi yn y Cynulliad, sydd bellach yn ddeddf, i sicrhau lefelau diogel o staffio nyrsys mewn ysbytai.

Ond dros dymor y Cynulliad diwethaf mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael eu cyhuddo o fod yn rhy barod i daro bargeinion â Llafur er mwyn pasio cyllidebau’r llywodraeth.

Serch hynny dyw’r arweinydd ddim yn difaru hynny o gwbl, gan fynnu y bydden nhw’n fodlon cydweithio â phwy bynnag fydd yn llywodraethu ar ôl 5 Mai os yw’n golygu gweld eu polisïau nhw’n cael eu gwireddu.

“Fel yr wrthblaid leiaf dros y pum mlynedd diwethaf rydyn ni eisoes wedi gwneud mwy o wahaniaeth na’r gwrthbleidiau eraill,” mynnodd Kirsty Williams.

“Os mai dyna wnaethon ni gyflawni â phum aelod, dychmygwch beth allwn ni wneud â mwy.

“Beth sy’n bwysig yw bod pobol yn gwybod beth fydden nhw’n ei gael petawn nhw’n pleidleisio dros ymgeisydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Fe fyddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu ar ôl yr etholiad i wireddu’r addewidion hynny ar gyfer pobol Cymru.”

Ffioedd a ffyrdd

Wrth i ni drafod rhai o bolisïau’r blaid ar gyfer etholiadau’r Cynulliad mae’r sylw’n troi tuag at grantiau ffioedd myfyrwyr – rhan sylweddol o wariant Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Dyma faes sydd wedi bod yn gocyn hitio cyson i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ddiweddar, yn dilyn penderfyniad y Glymblaid yn San Steffan i gyflwyno ffioedd o £9,000 y flwyddyn i fyfyrwyr yn 2012.

Mae Kirsty Williams yn cyfaddef nad yw’r grant presennol yn gynaliadwy, ac mai’r ffordd o helpu myfyrwyr drwy eu hastudiaethau yw darparu cymorth ariannol iddynt ar gyfer eu costau byw, nid eu ffioedd dysgu.

“Rydyn ni wedi gwrando’n astud ar gynrychiolwyr myfyrwyr a’r myfyrwyr eu hunain, a’r peth sy’n ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw fynd i’r brifysgol, ac aros yn y brifysgol, yw’r costau byw, rhent, bwyd, llyfrau,” mynnodd.

Polisi tebyg i’r Ceidwadwyr Cymreig felly, sydd hefyd eisiau gweld mwy o grantiau tuag at gostau byw – yn wahanol i Blaid Cymru, fyddai’n ad-dalu ffioedd i’r rheiny sydd yn dychwelyd i Gymru, a Llafur sydd heb gyhoeddi’u cynlluniau nhw eto.

“Mae polisi’r Ceidwadwyr yn fater iddyn nhw. I ni, y flaenoriaeth yw helpu myfyrwyr gyda’u costau byw, achos dyna yw’r rheswm mae’r rhan fwyaf o bobol yn gadael y brifysgol,” meddai Kirsty Williams.

Beth am faterion gwariant eraill felly, ac yn benodol, beth fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol am ei weld yn digwydd â’r £1bn o bwerau benthyg fydd yn dod i Fae Caerdydd dros y blynyddoedd nesaf?

“Fydden ni’n sicr ddim yn gwario bron i holl bwerau benthyg newydd y Cynulliad ar ddarn bychan o ffordd fyddai’n gwasanaethu un cornel o’n gwlad,” meddai Kirsty Williams, gan gyfeirio at y cynlluniau arfaethedig ar gyfer gwella’r M4 ger Casnewydd.

“Mae angen i ni sicrhau fod y pwerau benthyg yna’n cael eu defnyddio’n hafal ar draws y wlad, gogledd, de, dwyrain, gorllewin, trefol a gwledig.

“Oes, mae angen gwneud rhywbeth am y ffordd yna, ond mae modd ei wneud yn llawer rhatach a mwy cynaliadwy.

“Rydyn ni eisiau defnyddio’r pwerau benthyg yna i adeiladu tai i bobol, tai newydd fforddiadwy i bobol sydd ar hyn o bryd yn cael trafferth cael sicrwydd ar gyfer y dyfodol.”

A oes dyfodol?

Maes arall sydd yn cael tipyn o sylw gan y blaid yn eu maniffesto yw’r iaith Gymraeg, gyda phwyslais ar sicrhau bod digon o swyddi da i gadw siaradwyr Cymraeg yn ei chadarnleoedd, a sicrhau bod digon o addysg Gymraeg i ateb y galw cynyddol.

Ac ymateb penderfynol iawn sydd gan Kirsty Williams i’r awgrym nad yw’r Democratiaid Rhyddfrydol yn malio cymaint am yr iaith â rhai o’r pleidiau eraill yng Nghymru.

“Mae hynny’n rwtsh, mae’n plaid ni yn hollol gefnogol i’r iaith,” mynnodd yr arweinydd.

“Rydw i’n bersonol yn credu ynddi, cefais i fy magu mewn cartref Saesneg ei hiaith ac mae hynny’n destun edifeirwch i mi, ond dw i wedi cymryd y cyfle i addysgu fy mhlant i yn Gymraeg, a dw i’n falch iawn bod yr iaith wedi cael ei ailsefydlu yn fy nheulu i.

“Mae angen i ni gefnogi’r cymunedau hynny ble mae’r Gymraeg yn iaith gymunedol, ond mae angen sicrhau hefyd bod cyfleoedd addysg ar gael hefyd yn yr ardaloedd hynny ble nad yw’r iaith mor gryf … [a] sicrhau bod cyfle i ddefnyddio’r iaith nid yn unig yn y dosbarth, ond yn y gymuned, gyda gwasanaethau ieuenctid yn yr iaith.”

Er yr holl siarad penderfynol, fodd bynnag, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwybod mai cael a chael fydd hi iddyn nhw ddal eu gafael ar rai o’u seddi, yn enwedig rhai rhanbarthol fydd yn cael eu bygwth gan UKIP.

Dim ond un o bob 20 person yng Nghymru sydd yn bwriadu bwrw croes i flwch y blaid yn ôl yr arolygon diweddar, a phryder eu cefnogwyr fydd pa mor berthnasol fyddan nhw mewn gwirionedd ar ôl 5 Mai.

Gyda’r dyfodol yn un ansicr dyw Kirsty Williams ddim yn awyddus i drafod clymbleidiau posib cyn gweld beth yw canlyniad yr etholiad – ond mae hi’n fodlon diystyru o leiaf un opsiwn.

“Allai ddim rhagweld unrhyw sefyllfa ble bydden i’n fodlon gweithio gydag aelodau UKIP yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru,” meddai.

“Fe fyddai eu polisïau nhw’n mynd â Chymru yn ôl, nid ymlaen, a dw i ddim yn rhagweld unrhyw sefyllfa ble bydden i’n gallu ffeindio unrhyw beth yn gyffredin â nhw i weithio arno.”