Fydd dim Maes traddodiadol yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 yn ôl y cynlluniau newydd
Dros y penwythnos fe gafwyd cadarnhad fod Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol wedi derbyn argymhelliad i fynd â’r Brifwyl i Fae Caerdydd ymhen dwy flynedd.

Mae disgwyl i faes yr Eisteddfod yn 2018 fod yn un dra gwahanol i’r arfer felly, heb ffi mynediad na ffens o’i hamgylch, a’r prif gystadlu yn digwydd yng Nghanolfan y Mileniwm yn hytrach na’r Pafiliwn.

Arbrawf am flwyddyn yn unig fyddai’r cynllun newydd, yn ôl y trefnwyr, sydd yn dweud y bydd arbedion ariannol i’w gwneud o ddefnyddio adeiladau parhaol yn y Bae.

Y gobaith yw y bydd hefyd yn fodd o ddenu ymwelwyr newydd i’r ŵyl, a hynny’n haws o gofio na fydd yn rhaid talu i fynychu.

Ond dyw’r penderfyniad i hepgor maes traddodiadol ddim wedi plesio pawb, gyda rhai yn poeni a fydd modd creu’r un ymdeimlad o ŵyl Gymreig dan y fath drefniant, gyda phawb yn cyfarfod a chymysgu mewn un man penodol.

Yn ôl eraill fe allai arbrawf llwyddiannus arwain at fwy o awydd i ddefnyddio Caerdydd yn amlach yn y dyfodol ar draul lleoliadau eraill yng Nghymru, neu gynnal Eisteddfodau di-faes mewn trefi a dinasoedd eraill.

Beth yw’ch barn chi? A yw’n beth da bod yr Eisteddfod yn ceisio arloesi ac arbrofi gyda chynlluniau newydd? Neu a oes peryg bod naws arbennig y Brifwyl yn cael ei cholli heb y maes traddodiadol?