Angharad Tomos
Fe fydd yr awdur a’r ymgyrchydd iaith Angharad Tomos yn trafod dwy o’i nofelau diweddar gyda phlant ysgolion cynradd yng Ngwynedd yr wythnos nesaf.

I gyd-fynd â digwyddiadau’r Fedwen Lyfrau, gŵyl flynyddol Cyngor Llyfrau Cymru, yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn nesaf, fe fydd Angharad Tomos yn ymweld â chwe ysgol yn nalgylch y dref.

Cyffro chwyldroadol ymgyrchoedd iaith yn yr 1960au yw cefndir ei nofelau Paent! a Darn Bach o Bapur, ac wrth eu cyflwyno fe fydd yr awdur yn eu gosod yn eu cyd-destun hanesyddol.

Bwriad y Daith Awdur yw hyrwyddo llyfrau Cymraeg ymysg plant y phobl ifanc, yn ôl Sharon Owen o Gyngor Llyfrau Cymru.

“Bydd hwn yn gyfle gwych i ysgogi’r disgyblion i fwynhau darllen, ac i annog pob un ohonynt i roi cynnig ar ysgrifennu creadigol,” meddai.