Arddangosfa Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd y penwythnos yma (llun gan yr Amgueddfa)
Mae cyfle i ddysgu sut mae planhigion wedi newid ac addasu dros y 750 miliwn o flynyddoedd diwethaf mewn arddangosfa yng Nghaerdydd y penwythnos yma.

Mewn pabell ar faes sioe’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) ym Mharc Bute, mae Amgueddfa Cymru’n arddangos casgliad o blanhigion a sbesimenau botanegol ac yn cynnig gweithareddau ymarferol i’r teulu cyfan.

Mae’r casgliad yn cynnwys esiamplau o’r planhigion cyntaf, planhigion a newidiodd hinsawdd y byd a hyd yn oed rhai o’r planhigion fyddai’r deinosoriaid yn eu bwyta. Gall ymwelwyr ddysgu sut yr esblygodd coed a phlanhigion blodeuog eraill i greu’r tirlun a welwn ni heddiw, gan gynnig cynefin sefydlog i adar a mamaliaid fydd hefyd i’w gweld yn yr arddangosfa.

Mae cyfle hefyd i ymwelwyr o bob oed gael mwynhau hollti’r garreg laid i ddatgelu planhigion ffosil 300 miliwn o flynyddoedd oed, a bydd arbenigwyr yr Amgueddfa yno i ateb unrhyw gwestiynau gwyddonol.

“Rydyn ni wrth ein bodd yn cael mynd i sioe’r RHS eto eleni,” meddai Heather Pardoe o Adran Gwyddorau Naturiol Amgueddfa Cymru. “Mae adrodd hanes esblygiad planhigion yn wahanol iawn i’n harddangosfeydd yn y gorffennol ac yn gyfle gwych i’r curaduron gyfarfod y cyhoedd a dangos sbesimenau gwych o’r casgliadau.”

Mae sioe’r RHS yn agored tan yfory.