(llun: PA)
Fe fydd ‘Vote Leave’ yn lansio’i hymgyrch benodol ar gyfer Cymru heddiw er mwyn ceisio perswadio pobol y byddai’r wlad ar ei hennill o bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dangosodd y pôl piniwn diweddaraf yng Nghymru fod yr ymgyrch i adael Ewrop fymryn ar y blaen i’r ymgyrch ‘aros’ ar hyn o bryd, o 39% i 38%.

Yn ôl ymgyrchwyr Vote Leave, yr ymgyrch swyddogol i geisio gadael yr Undeb yn y refferendwm ar 23 Mehefin, fe fyddai’r diwydiant dur mewn gwell sefyllfa y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Ond mae’r rheiny sydd o blaid aros yn yr Undeb yn rhybuddio y gallai Cymru golli biliynau mewn cyllid petai Prydain yn gadael, ac y byddai’n anoddach masnachu â’r cyfandir wedi hynny.

‘Mwy i’w wario ar ysbytai’

Mae disgwyl i ymgyrch ‘Wales to Vote Leave’, fydd yn cael ei chefnogi gan AS Gorllewin Clwyd a chyn-ysgrifennydd Cymru David Jones, ddadlau y byddai mwy o arian ar gael i’w wario ar ysgolion, ysbytai a gwasanaethau lleol be bai Prydain yn gadael.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies hefyd o blaid gadael Ewrop, yn groes i eraill o fewn ei blaid yng Nghymru yn ogystal ag arweinyddiaeth ei blaid yn San Steffan.

Ar hyn o bryd mae Prydain yn cyfrannu mwy o arian i gyllideb yr Undeb Ewropeaidd nag y mae hi’n ei dderbyn yn ôl – ond Cymru yw un o’r ardaloedd sydd ar ei hennill.

Cyhuddiad o godi bwganod

Dywedodd yr AS Ceidwadol Liam Fox, un arall sydd o blaid gadael yr Undeb, y byddai’r refferendwm yn gyfle i bobol Prydain anfon neges nad oedden nhw eisiau bod yn rhan o ‘Unol Daleithiau Ewropeaidd’.

“Mae’r rheiny sydd ynghlwm â ‘project fear’ yn honni y byddai Cymru ar ei cholled petawn ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond does dim y fath beth ag arian Ewropeaidd – mae e’n berchen i chi’n barod,” mae disgwyl i Liam Fox ddadlau.

“Yn hytrach na rhoi £350m yr wythnos i Frwsel fe ddylen ni wario’r arian yna ar flaenoriaethau lleol fel Gwasanaeth Iechyd Cymru, sydd wedi gweld £1bn o doriadau gan Lywodraeth Lafur Cymru ers 2011.”