Brenhines Lloegr
Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud y byddan nhw’n hepgor y ffioedd arferol wrth iddyn nhw annog pobol i gynnal partïon stryd i ddathlu pen-blwydd y Frenhines yn 90 oed.

Bydd y Frenhines yn dathlu’r garreg filltir yn swyddogol ym mis Mehefin, er mai 21 Ebrill yw ei phen-blwydd go-iawn.

Fel arfer mae’n rhaid talu i’r cyngor sir am gynnal digwyddiadau fel partïon stryd, gan fod yn rhaid gwneud trefniadau megis cau’r ffyrdd.

Ond dywedodd Cyngor Powys na fyddai’n rhaid gwneud hynny yn yr achos hwn oherwydd “pwysigrwydd yr achlysur”.

Daw’r penderfyniad wrth i’r cyngor sir chwilio am £25m o doriadau i’w chyllideb.

‘£460 i gau ffordd’

Fel arfer mae Cyngor Powys yn codi £460 am gau ffordd, £185 i osod dodrefn ar strydoedd, a £102 am osod baneri neu bunting.

“Ry’n ni wedi ymrwymo i hepgor y ffioedd arferol ar gyfer y gwasanaeth yma er mwyn cydnabod pwysigrwydd yr achlysur,” meddai’r Cynghorydd John Brunt, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Briffyrdd.

“Fodd bynnag, bydd angen asesu a oes modd caniatáu unrhyw gais i gau’r Ffordd.”

‘Dim cais hyd yn hyn’

Dywedodd Cyngor Sir Powys y byddai’n rhaid i unrhyw grwpiau oedd am gynnal digwyddiadau i ddathlu’r pen-blwydd gyflwyno’u ceisiadau erbyn 29 Ebrill.

Dydyn nhw ddim wedi cadarnhau fodd bynnag sawl cais sydd wedi cael ei gyflwyno hyd yn hyn.

Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol gael canllawiau ar gyfer cynnal digwyddiadau o’r fath, ac fe fyddai nifer wedi gwneud trefniadau tebyg adeg dathliadau fel Jiwbilî’r Frenhines yn 2011.

Dywedodd Cyngor Môn wrth golwg360 y gallai pobol gysylltu â’r cyngor os oedden nhw eisiau cymorth wrth sefydlu parti o’r fath, ond “nad oes cais wedi cael ei gyflwyno hyd yn hyn”.