Cefnogwyr Cymru ym Mrwsel (Llun: Adam Davy/PA)
Does gan yr awdurdodau yn Ffrainc ddim cynlluniau i wahanu cefnogwyr Cymru a Lloegr ar gyfer yr ornest fawr rhwng y ddau dîm yn Ewro 2016 ym mis Mehefin.

Dywedodd Paul Corky o grŵp cefnogwyr FSF Cymru ei fod yn golygu y bydd cefnogwyr pêl-droed o’r ddau dîm mwy na thebyg yn cymysgu y tu allan a thu fewn i’r stadiwm yn Lens.

Mae Cymru a Lloegr yn yr un grŵp ym mhencampwriaethau Ewrop yr haf hwn, ac fe fydd yr ornest rhwng y ddau dîm yn cael ei chwarae yn nhref Lens ar 16 Mehefin mewn stadiwm sydd yn dal 33,000 o bobol.

Ond mae hynny eisoes wedi arwain at bryderon ymysg cefnogwyr y gallai hi droi’n hyll rhwng y ddau set o gefnogwyr, yn enwedig os yw pobol wedi bod yn yfed cyn y gêm, gyda’r gic gyntaf am dri’r prynhawn.

Y tro diwethaf i’r ddau dîm gyfarfod, mewn gêm yn Wembley yn 2011, bu farw’r Cymro Michael Dye ar ôl cael ei daro gan un o gefnogwyr Lloegr, Ian Mytton.

‘Awdurdodau llym’

Mae disgwyl y bydd llawer o heddlu yn bresennol ar gyfer y gêm, yn enwedig gyda phryderon diogelwch cyffredinol beth bynnag o gwmpas Ewro 2016 oherwydd y bygythiad brawychol.

“Dyw gwahanu ddim yn rhywbeth mae UEFA’n awyddus i’w wneud,” esboniodd Paul Corky mewn neges ar Facebook i gefnogwyr Cymru.

“Mae’r rhan fwyaf o feysydd yn caniatáu i gefnogwyr gyrraedd unrhyw ran o’r maes, oni bai am Lens gan fod pedwar eisteddle ar wahân. Fydd dim gwahanu y tu allan yn y strydoedd, ar gysylltiadau trafnidiaeth ac yn y blaen.

“Mae’n cael ei weld fel gŵyl o bêl-droed, ond byddwch yn ymwybodol y bydd diogelwch a heddlua tynn drwy gydol y twrnament.

“Fe fydd yr awdurdodau, mwy na thebyg yr heddlu reiat ddrwg-enwog, yn delio’n llym gydag unrhyw un sydd yn ceisio achosi problemau neu drwbl, ac fe fyddan nhw’n wynebu cosbau pellach pan fyddan nhw’n dychwelyd adref.”