Mae heddluoedd Cymru yn ymuno ag ymgyrch ledled Prydain heddiw i geisio mynd i’r afael â brawychiaeth ar y We.

Y nod yw apelio ar bobol i roi gwybod i’r heddlu am unrhyw rai sy’n rhannu deunydd frawychol ac eithafol ar wefannau fel cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r ymgyrch yn annog pobol i glicio botwm mawr coch STOP ar wefannau’r heddlu sy’n eu cyfeirio at ffurflen anhysbys Llywodraeth Prydain, sy’n gofyn am gyfeiriad y wefan lle gafodd y deunydd ei rannu.

160,000 o ddarnau ‘eithafol’ wedi’u tynnu o’r We

Am y 36 awr nesaf, bydd yr Uned Gyfeirio Gwrthfrawychiaeth ar y We yn mynd ati i dynnu cymaint o ddeunydd tramgwyddus oddi ar y We.

Ar gyfartaledd, mae’r uned yn tynnu tua 1,000 o ddarnau eithafol a brawychol oddi ar y We bob wythnos, sy’n cynnwys fideos propaganda, lluniau o bobol yn cael eu dienyddio, cyfarwyddiad ar sut i wneud bomiau ac areithiau yn galw am drais hiliol neu grefyddol.

Ers ei sefydlu yn 2010, mae’r uned wedi tynnu 160,000 o ddarnau o’r fath oddi ar y We.

‘Dibynnu’ ar y cyhoedd

“Mae’r We a chyfryngau cymdeithasol yn rhoi llawer o gyfleoedd i’r sawl sydd â barn eithafol i dargedu pobol ifanc neu fregus, ac mae’r ffordd y gwnawn hyn yn newid o hyd,” meddai’r Uwch Cydlynydd Cenedlaethol dros Blismona Gwrthfrawychiaeth, Helen Ball.

“Mae’r heddlu yn dibynnu ar wybodaeth gan y cyhoedd yn ein hymdrechion i’n cadw yn ddiogel ac rydym yn gofyn i unrhyw un sydd â phryderon am gynnwys ar y we i roi gwybod i ni.”