Heather Jones (Llun: Y Lolfa)
Mae yna le newydd ar y We i bobol brynu a gwerthu cerddoriaeth Gymraeg gan artistiaid hen a newydd, o bob math.

Nod Ocsiwn.com yw cael man canolog ar y We i bobol allu prynu a gwerthu hen recordiau Cymraeg, yn ogystal â bod yn blatfform i artistiaid newydd werthu eu cynnyrch.

Mae modd prynu rhai nwyddau yn syth ond mae’r rhan fwyaf o recordiau yn gofyn i gwsmeriaid roi cynnig (bid) cyn prynu.

Ar hyn o bryd, mae cynnyrch rhai o artistiaid poblogaidd y 1970au a’r 1980au ar werth ar y wefan, sy’n cynnwys EP Treiglad Pherffaith – Un Dydd ar ôl, EP Heather Jones – Colli Iaith, EP Y Trwynau Coch – Pan fo Cyrff yn Cyffwrdd a mwy.

Gair gan y sylfaenydd

“Syniad oedd Ocsiwn.com ddaeth i mi sawl mis yn ôl erbyn hyn a chyda bach o waith a lot o ymchwil, dyma hi,” meddai sylfaenydd y wefan, Alun Jones ar y wefan.

“Mae sawl un wedi dangos diddordeb mewn prynu a gwerthu cerddoriaeth Gymraeg ond ddim eisiau defnyddio gwefannau ocsiwn eraill, felly dyna o le ddaeth y syniad ar gyfer gwefan arbenigol fel hyn.

“Y gobaith yw y bydd siopau yn gallu defnyddio’r gwasanaeth i werthu hen gerddoriaeth a cherddoriaeth newydd a defnyddwyr unigol hefyd – Y lle ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg ar y we.”