Ffair Lyfrau Llundain
Mae cyhoeddwr wedi dweud wrth golwg360 fod presenoldeb Cymru yn Ffair Lyfrau Llundain, sy’n cael ei chynnal yr wythnos hon, yn destun “embaras”.

Yn ôl Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasg Tyddewi, doedd gan Gyngor Llyfrau Cymru ddim “stondin fawr” yn yr ŵyl o gymharu â stondinau tebyg gan Yr Alban ac Iwerddon.

“Mae’n warthus fod gan Gymru ddim stondin mewn ffair mor bwysig â hon,” meddai Ashley Drake.

Ond yn ôl Cyngor Llyfrau Cymru does dim stondin wedi bod gan Gymru yn yr ŵyl ers sawl blwyddyn oherwydd rhwystrau ariannol y sector. Maen nhw wedi dweud wrth golwg360 y bydden nhw’n dymuno cael stondin yno.

Mae Ffair Lyfrau Llundain yn cael ei chynnal yn Olympia ac mae’n denu 25,000 o gyhoeddwyr proffesiynol o wahanol rannau o’r byd bob blwyddyn.

“Gwarth”

Mae Ashley Drake yn derbyn fod Cyngor Llyfrau Cymru yn wynebu rhwystrau ariannol, ond mae’n credu fod y ffair yn Llundain yn gyfle i hyrwyddo llyfrau o Gymru ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.

“Mae’r gefnogaeth swyddogol mae ein ffrindiau yn Yr Alban, Iwerddon, Fflandrys a chenhedloedd eraill yn ei dderbyn yn destun gwarth i Lywodraeth Cymru,” meddai.Ychwanegodd fod Cyngor Llyfrau Cymru wedi cymryd slot ar stondin grŵp o gyhoeddwyr annibynnol, gan ddweud fod y presenoldeb “yn bitw”.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth golwg360 mai mater i’r llywodraeth nesaf i gael ei ethol, yn dilyn yr etholiad ar Fai’r pumed, fydd ystyried cwynion Ashley Drake.


Stondin Iwerddon yn Ffair Lyfrau Llundain

‘Gwasgfa ariannol’

Dywedodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, nad ydyn nhw wedi cynnal stondin yn y ffair yn Llundain ers tua wyth mlynedd, ond bod cynrychiolwyr o’r Cyngor yn mynd yno.

“Mi oedd gan y Cyngor stondin yn y ffair rai blynyddoedd yn ôl, ond oherwydd y wasgfa ariannol, dy’n ni ddim wedi gallu parhau â’r patrwm yna, a dyw e ddim yn rhywbeth newydd eleni.”

Dywedodd y byddai’r gost o gynnal stondin yn y ffair am dridiau yn sylweddol – “rhwng pob dim, mae’n siŵr y byddai’n costio o gwmpas £12,000”.

Er hynny, dywedodd fod y Cyngor Llyfrau yn paratoi cynllun strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf ar hyn o bryd. Fel rhan o hynny maen nhw am weld y Cyngor yn cael lle yn ffeiriau llyfrau Llundain a Frankfurt.

“Rydym ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig i Gymru gael presenoldeb mewn ffeiriau pwysig o’r fath,” meddai Elwyn Jones.

“Rydym ni’n dal o dan bwysau ariannol,” meddai, ond dywedodd fod y dro pedol i doriadau’r cyngor ddechrau’r flwyddyn “yn rhoi llawer mwy o sicrwydd inni gynllunio ymlaen at y dyfodol.”