Mae dyn 35 oed o Gaerdydd wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ddau blismon yng nghanol y brifddinas neithiwr, ac mae’n parhau yn y ddalfa.

Yn ôl Heddlu De Cymru, cafodd dau blismon eu cludo i’r ysbyty am driniaeth wedi’r digwyddiad tua 8yh nos Fercher, ond maen nhw bellach wedi eu rhyddhau.

Cafodd y ffyrdd o gwmpas canol dinas Caerdydd eu cau am gyfnod wrth i’r heddlu ddelio â’r digwyddiad neithiwr.