Yr actor Gareth Thomas
Mae’r actor o Gymru, Gareth Thomas, a oedd yn fwyaf adnabyddus am ei ran yn y ddrama BBC Blake’s 7 yn y 70au, wedi marw yn 71 oed.

Fe gyhoeddwyd ei farwolaeth ar wefan Blake’s 7 Online a oedd yn adrodd bod yr actor wedi marw ddydd Mercher o broblemau gyda’r galon.

Cafodd ei eni yn 1945 a’i hyfforddi yn Rada cyn ymddangos mewn cyfresi fel The Avengers, Z Cars a Coronation Street.

Ym 1972 cafodd ei enwebu am Bafta am ei berfformiad yn Stocker’s Copper, rhan o BBC Play for Today, ac eto yn 1984 am ei ran yn chwarae ffermwr yn  One’s Morgan’s Boy.

Fe apeliodd at nifer o ffans ifanc am ei ran fel Adam Brake yn nrama’r BBC The Children Of The Stone.

Ond mae’n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Roj Blake yn y ddrama sci-fi Blake’s 7, a oedd wedi denu hyd at 10 miliwn o wylwyr yr wythnos yn y DU.

Roedd hefyd wedi actio ar y llwyfan mewn nifer o gynhyrchiadau’r Royal Shakespeare Company a’r English Shakespeare Company.