Ian Jones, Prif Weithredwr S4C
Mae gwarchod annibyniaeth S4C yn hanfodol ar gyfer dyfodol darlledu Cymraeg a’r cyfryngau, yn ôl ei phrif weithredwr Ian Jones.

Dywed fod angen “ystyriaeth ofalus er mwyn sicrhau bod hynny’n cael ei gyflawni” wrth i Adran Ddiwylliant San Steffan ystyried argymhellion Adroddiad Clementi i ddyfodol llywodraethiant y BBC.

Wrth i strwythurau’r BBC newid, fe allai’r system sy’n ariannu S4C o ffi’r drwydded gael ei newid yn sylfaenol dros y misoedd nesaf.

Mae Adroddiad Clementi yn argymell cael gwared ar Ymddiriedolaeth y BBC, ac fe fydd y Gorfforaeth yn mynd o dan reolaeth Bwrdd Unedol.

Byddai hynny, meddai Ian Jones wrth y Westminster Media Forum, yn golygu na fyddai’r drefn bresennol sy’n sicrhau annibyniaeth i S4C yn gallu parhau fel y mae hi.

‘Hanfodol’

Fel rhan o drafodaethau’r fforwm, cafodd ystyriaeth ei rhoi i’r ffordd y gall darlledwyr cyhoeddus ddarparu’r gwasanaeth gorau posib i’r gynulleidfa.

Yn ei araith, pwysleisiodd Ian Jones y gall darlledwyr weithio’n well gyda’i gilydd er mwyn darparu gwasanaeth cyflawn a boddhaol i’r cyhoedd, a bod gwarchod annibyniaeth S4C yn rhan allweddol o hynny.

Meddai Ian Jones; “Mae’r gwasanaeth mae S4C yn ei ddarparu yn enghraifft o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn ei ffurf fwyaf elfennol. Heb S4C ni fyddai unrhyw wasanaeth ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn ei hiaith ei hunain.

“Ond mae’r sianel hefyd yn rhan hanfodol o’r darlun cyfan ar draws y DU. Mae’r sianel yn bwysig iawn ar gyfer plwraliaeth nid yn unig yng Nghymru, ond ar gyfer y DU i gyd.”

Argymhellion yn tanseilio annibyniaeth S4C

Dywedodd Prif Weithredwr S4C: “O ran annibyniaeth S4C mae risgiau sylweddol, yn benodol o ystyried argymhellion adroddiad Syr David Clementi sydd wedi awgrymu sefydlu Bwrdd Unedol y BBC.

“Mae’n rhaid pwysleisio na fyddai’r trefniadau cyllido presennol ar gyfer S4C yn gweithio o dan yr amgylchiadau hynny heb danseilio annibyniaeth S4C fel darlledwr.

“Mae’n anodd rhagweld sut all corff sy’n dosrannu cyllid fod yn ddyfarnwr ac, ar yr un pryd, yn gallu elwa o’r penderfyniadau cyllido.

“Bydd angen ystyried hyn yn ofalus dros y misoedd nesaf – a chydnabyddiaeth o’r ffaith bod S4C yn endid annibynnol ac unigryw sydd wedi ei greu er mwyn darparu Gwasanaeth Darlledu Cyhoeddus yn yr iaith Gymraeg.”

‘Dim modd ymddiried yn y BBC’

Cafodd sylwadau Ian Jones eu cefnogi gan Curon Davies, cadeirydd grŵp di­gidol Cymdeithas yr Iaith.

“Mae annibyniaeth S4C fel darlledwr yn h­anfodol os yw’r Gymraeg i ffynnu,” meddai.

“Nid oe­s modd ymddiried yn y BBC fel corfforaet­h i flaenoriaethu’r Gymraeg; dyna un o’r­ rhesymau aberthodd cynifer o bobl cymai­nt er mwyn ei sefydlu. Mae angen datganoli darlledu yn ei gyfanrwydd i lunio cyfundrefn sy’n deg i’r Gymraeg.

“Ond, yn sicr, dylai’r ­Llywodraeth sicrhau bod unrhyw newidiada­u i reolaeth y BBC yn cryfhau annibyniae­th S4C nid ei thanseilio yn bellach. Byd­dwn ni’n cysylltu â’r Llywodraeth i godi­ pryderon am y mater yma.”

Pryderon

Pe bai Ymddiriedolaeth y BBC yn cael ei diddymu, byddai’r cytundeb presennol o ran ariannu S4C drwy ffi’r drwydded hefyd yn dod i ben.

O ran sefydlu Bwrdd Unedol arfaethedig, mae pryderon ynghylch pwy fyddai aelodau’r bwrdd hwnnw.

Wrth ddosrannu cyllid, byddai disgwyl i’r bwrdd fod yn annibynnol, ond ymhlith ei aelodau fyddai unigolion a allai elwa o benderfyniadau sy’n ymwneud â rhannu’r arian.

Os nad yw holl aelodau’r Bwrdd Unedol yn annibynnol, yna fe fyddai hynny wedyn yn tanseilio annibyniaeth S4C.