Mae prosiect newydd wedi cael ei lansio a fydd yn cymharu bywydau pobol ifanc Cymru gyda bywydau pobol ifanc ar draws Ewrop.

Bwriad ‘Generation Beth’ yw mynd i’r afael â gobeithion, ofnau ac uchelgeisiau Cymry ifanc heddiw.

Mae’r holiadur ar-lein, sy’n gwbl gyfrinachol, yn gofyn i bobol rhwng 18 a 34 oed ateb cwestiynau am arian, eu bywyd personol, rhyw, teulu, ffrindiau, byd gwaith a’r gyfraith a’u cymharu â barn pobol ifanc eraill y cyfandir.

Yn ogystal â Chymru, bydd pobol ifanc Yr Almaen, Awstria, Gwlad Belg, Sbaen, Yr Eidal, Iwerddon, Gwlad Groeg, Lwcsembwrg, Yr Iseldiroedd, Ffrainc a’r Weriniaeth Tsiec hefyd yn cymryd rhan.

Yng Nghymru, partneriaeth rhwng S4C a Chwmni Da fydd yn cydlynu’r prosiect, a bydd y sianel genedlaethol hefyd yn dangos pedair rhaglen ddogfen i gyd-fynd â’r prosiect a fydd yn portreadu pobol ifanc o’r holl wledydd sy’n cymryd rhan.

Bydd y rhain yn cael eu dangos ar 13 Mai, gyda hanes y gantores Efa Thomas o Gricieth, sy’n canu gyda’i phrosiect Supertramp.

‘Cwestiynau a all wneud i chi gochi!’

“Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol ac yn hynod o gyffrous,” meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys S4C.

“Byddwn ni’n cael darlun eang o fywyd ar draws Ewrop, ac mae rhai o’r cwestiynau yn eithaf personol all wneud i chi gochi! Ond, mae’r holiadur yn gwbl gyfrinachol, felly peidiwch dal nôl. Ewch ati i’w lenwi, a byddwch yn onest!”