Mae fideo arbennig gan yr elusen Macmillan wedi’i anelu at helpu cleifion canser i adnabod symptomau’r cyflwr Cywasgiad Metastatig yr Asgwrn Cefn (MSCC).

Mae MSCC yn gyflwr sy’n effeithio ar 1 ymhob 10 o gleifion canser, wrth i’r celloedd canser dyfu yn yr asgwrn cefn, neu’n agos ato, gan wasgu ar y madruddyn a’r nerfau.

Mae’n fwy cyffredin mewn rhai mathau o ganser, gan gynnwys canser y fron, yr ysgyfaint, y brostad a chleifion sydd â myeloma neu lymffoma.

Mae’r fideo, sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn gynnyrch cymorth ariannol gan Macmillan ar gyfer Rhwydwaith Canser De Cymru.

Mae eisoes wedi’i arddangos yn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, gyda’r bwriad o’i arddangos ledled Cymru.

‘Adnabod yr arwyddion’

Esboniodd Susan Morris , Rheolwr Cyffredinol Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru fod datblygu’r cyflwr MSCC yn cael ei ystyried “yn argyfwng meddygol.”

Am hynny, mae adnabod a thrin y cyflwr yn gynnar yn bwysig.

“Nid bwriad y fideo yw codi ofn ar y rhai sydd wedi’u heffeithio gan ganser ond eu helpu i adnabod yr arwyddion a’r symptomau pwysig.

“Mae angen cael archwiliad cyn gynted ag sy’n bosibl, gan fod hyn yn arwain at driniaeth gynharach, gyda chanlyniadau gwell.”

‘Byw’n hirach’

“Mae nifer yr achosion o MSCC yn cynyddu wrth i bobl fyw’n hirach gyda chanser,” meddai Kate Baker, Arweinydd Gwella Gwasanaeth MSCC Macmillan.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr adnodd hwn yn cael ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys ysbytai, clinigau meddygon teulu a’r rhyngrwyd.”