Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud mai llofruddiaeth oedd marwolaeth dynes 51 oed.

Cafwyd hyd i gorff y ddynes mewn tŷ ger Machynlleth bnawn dydd Sul, 10 Ebrill.

Daeth yr heddlu hefyd o hyd i gorff dyn 45 oed ar dir yr eiddo.

Dywed yr heddlu nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r marwolaethau.

Fe fydd post mortem yn cael ei gynnal ar gorff y dyn ddydd Mawrth.

Mae’r heddlu’n parhau i geisio cysylltu â theulu’r ddau.