Linda gyda'i gwr Syr Tom Jones yn 1970
Mae gwraig Syr Tom Jones wedi marw ar ôl “brwydr fer” gyda chanser, meddai llefarydd ar ei ran heddiw.

Roedd y Fonesig Melinda Rose Woodward wedi bod yn briod a’r canwr o Bontypridd ers 59 mlynedd.

Bu farw Linda, fel yr oedd yn cael ei hadnabod, ddydd Sul, yn Ysbyty  Cedars-Sinai  yn Los Angeles gyda’i gwr a’i theulu o’i chwmpas, meddai’r datganiad gan Live Nation.

Ychwanegodd bod Syr Tom a’i deulu wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn ac na fyddai rhagor o wybodaeth yn cael ei gyhoeddi.

Roedd y ddau wedi adnabod ei gilydd ers yn 12 oed ac wedi priodi yn 1957. Mae ganddyn nhw fab, Mark Woodward.

Roedd Syr Tom, 75 oed, wedi canslo nifer o sioeau yn Japan, Gwlad Thai, De Corea a’r Emiradau Arabaidd Unedig yn ddiweddar gan ddweud mewn datganiad ei fod oherwydd “salwch difrifol ymhlith aelod o’r teulu.”