Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru (llun: PA)
Mae’r Blaid Lafur wedi addo y bydd yn sefydlu tasglu i hybu cymoedd y de os caiff ei hailethol i lywodraethu Cymru y mis nesaf.

Mewn rali ym Merthyr heddiw, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai’r tasglu’n hybu datblygiad economaidd ac yn helpu creu swyddi yn yr hen gymoedd glofaol.

Dywedodd fod angen rhaglen newydd ar y cymoedd a fydd yn gweithio law yn llaw â rhaglenni dinas-ranbarthau Caerdydd a Bae Abertawe.

“Hoffem i’r tasglu ddod â busnesau, llywodraeth leol, y trydydd sector a sefydliadau sifig at ei gilydd,” meddai. “Y nod fyddai iddyn nhw hyrwyddo’r rhanbarth ar gyfer denu buddsoddiadau, a mynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol sy’n deillio o ddiffyg trafnidiaeth a thai ac amddifadedd cymdeithasol.”

Beirniadu Plaid Cymru ac Ukip

Gan fynnu bod gan y rhanbarth ddyfodol disglair, mae’n cyhuddo Plaid Cymru ac Ukip o fod ag agwedd negyddol at y cymoedd.

“Mae arna i eisiau herio’r pesimistiaeth parhaus a glywn gan gynrychiolwyr Plaid Cymru ac Ukip yn y cymoedd,” meddai. “O wrando arnyn nhw, fe fyddech chi’n meddwl nad oes dim erioed wedi digwydd yma.

“Ein lle ni yw eu cywiro nhw. Oherwydd yr hyn yr ydym ni’n ei wneud yn y cymoedd yw buddsoddi ynddyn nhw. Buddsoddi yn yr adeiladau. Buddsoddi yn y seilwaith. Buddsoddi yn y bobl.”