Mae gŵyl o Gaerdydd sydd yn rhoi llwyfan i ffilmiau ym maes LGBT wedi cael ei henwi ymysg y goreuon yn y byd am yr ail flwyddyn yn olynol.

Cafodd Gŵyl Ffilmiau Iris le gan gylchgrawn Movie Maker ar restr flynyddol o’r 50 o wyliau ffilm gorau yn y byd.

Mae Gŵyl Iris yn cynnig gwobr flynyddol o £30,000 ar hyn o bryd i ffilm fer sydd yn ymdrin â phynciau hoyw, lesbiad, deurywiol a thrawsrywiol.

Teulu Iris

Ac fe ddywedodd cadeirydd yr ŵyl ei bod hi’n fraint enfawr i gael eu cynnwys ar restr ddiweddaraf y cylchgrawn Movie Maker, yn enwedig gan eu bod yn dathlu degawd ers ei sefydlu eleni.

“Rydyn ni wastad wedi parchu gwneuthurwyr ffilmiau ac mae’r rheiny sydd yn dod i’r ŵyl yn cael croeso mawr, gyda’r rhan fwyaf yn dod yn aelodau oes o deulu Iris,” meddai Andrew Pierce.

“Rydw i wrth fy modd gyda’r gydnabyddiaeth gan Movie Maker ac yn gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o wneuthurwyr ffilmiau i ystyried cystadlu am Wobr Iris.”