Cafodd y plismon ei daro tra roedd e wrth ei waith
Mae plismon Heddlu Dyfed-Powys yn dal yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad gyda char yn Hwlffordd nos Fawrth.

Cafodd y plismon ei daro gan gar Ford Mondeo arian tra roedd e wrth ei waith yn Stryd y Bont yn y dref am oddeutu 6.35yh.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, ond dydy ei fywyd ddim mewn perygl yn sgil ei anafiadau.

Mae’r heddlu’n rhoi cymorth i’w deulu ac yn apelio am wybodaeth.