Phoebe Florence Read ar y chwith
Mae angen i deulu merch fach bump oed o Abertawe godi cyfanswm o £85,000 er mwyn iddi dderbyn triniaeth i ymestyn ei hoes.

Mae dros £35,000 wedi cael ei godi ar gyfer Phoebe Florence Read drwy wefan Cronfa Phoebe Flo ers ei sefydlu ddiwedd mis Chwefror.

Cafodd ei rhieni, Cati a Paul wybod fis Hydref diwethaf fod ganddi diwmor prin ar ei hymennydd.

Mae angen £50,000 ychwanegol er mwyn i Phoebe, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn-y-Môr, dderbyn triniaeth at diwmor DIPG (Diffuse Intrinsic Pontine Glioma) sy’n effeithio llai na 40 o blant yng ngwledydd Prydain bob blwyddyn.

Fe fu Phoebe yn derbyn gofal yn Ysbyty Plant Arch Noa yng Nghaerdydd pan gafodd y teulu wybod bod triniaeth ar gael iddi ym Mryste.

Yn anffodus, roedd natur gymhleth cyflwr Phoebe yn golygu bod rhaid iddi fynd i’r Almaen at arbenigwr arall cyn bod modd ystyried rhoi’r driniaeth angenrheidiol iddi ym Mryste.

Roedd y tro trwstan diweddaraf yn golygu y bu’n rhaid addasu targed ariannol y gronfa i £85,000.

Mae cymuned leol Phoebe yn Abertawe wedi dod ynghyd i geisio codi’r swm angenrheidiol o arian drwy gynnal ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau ar hyd a lled y ddinas.

Ceisiadau am englynion

Fel nododd erthygl yng nghylchgrawn Golwg (Mawrth 10), mae’r prifardd Alan Llwyd yn gwahodd ceisiadau am englynion ar gost o £25 yr un.

Mae ei wyres a Phoebe yn ffrindiau, a’r ddwy yn gyd-ddisgyblion yn yr ysgol.

Dywedodd Alan Llwyd wrth Golwg360: “Cefais ymateb gwych i’r cais am englynion i godi arian i gronfa Phoebe.

“Mi ydw i wedi llunio rhyw ugain o englynion erbyn hyn, ac mae tri chomisiwn arall ar y gweill gen i ar hyn o bryd. Ac mae’r comisiynau yn dal i ddod.

“Mi ydw i wedi llunio englyn ar bob math o destunau, o gathod i gartrefi, o ymddeoliadau i ddigwyddiadau ac o briodasau i ben-blwyddi!”

Mae modd gwneud cais am englyn drwy e-bost.

Orielodl

Un arall fu’n weithgar er budd y gronfa yw Rhys Padarn Jones, sy’n athro yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn-y-Môr ac yn arlunydd sydd â’i fusnes celf ei hun, Orielodl.

Cododd Rhys £275 drwy gynnal ocsiwn ar wefannau cymdeithasol Twitter a Facebook i werthu darn arbennig o’i waith, lle mae’n defnyddio geiriau caneuon i greu darluniau.

Yn yr achos hwn, roedd ei ddarn pwrpasol yn seiliedig ar eiriau ‘Y Cwm’ gan Huw Chiswell.

Dywedodd Rhys Norris, sylfaenydd y gronfa ac ewythr Phoebe, wrth Golwg360: “Mae englynion Alan Llwyd yn syniad hyfryd ac yn ffordd wych o godi proffil yr apêl, ac roedd canlyniad ocsiwn Orielodl yn syrpreis da.”

Digwyddiadau

Mae llu o weithgareddau a digwyddiadau wedi cael eu cynnal yn ystod y mis diwethaf, a’r rheiny’n amrywio o noson gwis a the parti i noson ffilm a noson o adloniant amrywiol.

Ychwanegodd Rhys Norris: “Mae llawer o weithgaredau sydd wedi digwydd ac yn mynd i ddigwydd dros yr wythnosau nesaf.

“Mae llawer o weithgareddau i bawb ymuno a chael hwyl.”

Eto i ddod mae gigs roc yng nghanol y ddinas, diwrnod golff ym Mhontardawe, noson fawreddog yng ngwesty Morgan’s ym marina Abertawe a llawer mwy.

Mae rhagor o wybodaeth ar dudalennau Facebook a Twitter y gronfa, ac mae modd rhoi arian drwy fynd i’r dudalen GoFundMe.