Joe Marler (Llun; David Davies/PA)
Mae corff rheoli rygbi’r byd wedi penderfynu gwahardd prop Lloegr, Joe Marler, am ddwy gêm a rhoi dirwy o £20,000 iddo ar ôl iddo alw prop Cymru, Samson Lee, yn ‘gypsy boy’.

Wythnosau ar ôl y digwyddiad, mae sylwebwyr y dweud y bydd penderfyniad World Rugby yn embaras i gorff rheoli cystadleuaeth y Chwech Gwlad ar ôl i’r rheiny ddod i’r casgliad nad oedd angen cosbi’r Sais.

Roedd y ddau brop yn rhan o ffrwgwd ar y cae rhwng chwaraewyr Cymru a Lloegr yn ystod eu gêm yn y Chwe Gwlad fis diwethaf.

Dyna pryd cafodd y sylw sarhaus ei wneud yn erbyn Lee, sydd o dras sipsiwn Romani, ac fe gafodd ei glywed gan wylwyr ar y teledu drwy feicroffon y dyfarnwr.

Beirniadaeth

Fe ymddiheurodd Joe Marler wrth Samson Lee yn ystod hanner amser y gêm ac, oherwydd ei edifeirwch, fe benderfynodd awdurdodau’r gystadleuaeth ac Undeb Rygbi Lloegr nad oedden nhw am ei gosbi ymhellach.

Ond yn dilyn beirniadaeth lem o hynny gan gefnogwyr a sawl ffigwr amlwg o fewn y byd rygbi, fe benderfynodd World Rugby fynd â’r mater ymhellach.

Yn hwyr nos Fawrth fe gyhoeddodd yr awdurdodau bod panel o dri aelod wedi penderfynu rhoi dirwy o £20,000 i’r prop 25 oed, gyda’r swm yn cael ei dalu i elusen hawliau cyfartal – dyw hynny’n ddim ond un rhan o bump o’i fonws ar ôl i Loegr ennill y Gamp Lawn.

Bydd Marler hefyd yn colli gêmau’r Harlequins yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yn erbyn Gwyddelod Llundain, ac yng Nghynghrair Aviva yn erbyn y Saracens.

Ymddiheuriad

Cyn y gwrandawiad roedd Joe Marler wedi cyhoeddi neges arall ar Twitter yn ymddiheuro eto am y sylw, gan fynnu nad oedd yn berson hiliol.

Yn dilyn y gosb fe ryddhaodd World Rugby ddatganiad yn dweud eu bod wedi dod i gasgliad fod “Marler wedi defnyddio iaith amhriodol a gwahaniaethol tuag at Lee” a’i fod wedi torri côd ymddygiad y gêm.

Dywedodd Undeb Rygbi Lloegr na fyddai’r chwaraewr yn herio’r gosb ac mae awdurdodau’r Chwech Gwlad hefyd wedi dweud eu bod yn derbyn dyfarniad World Rugby.