Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion i ddamwain ffordd a ddigwyddodd y bore yma ger Caergybi, pan laddwyd beiciwr.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 7.40yb i ffordd y B5109 wedi i fan Ford Transit arian a beic pedal fod mewn gwrthdrawiad wrth groesffordd Trefor ger Caergybi.

Mae’r heddlu’n dal i ymchwilio i achos y ddamwain, ac yn cynghori teithwyr i gadw draw o’r ardal oherwydd y bydd oedi yn yr ardal am beth amser.

Dylai unrhyw dystion gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu ffonio’n ddienw linell Taclo’r Taclau ar 0800 555111.