Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn galw ar awdurdodau lleol i fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) er mwyn cyrraedd byddin o ofalwyr ifanc di-dâl yng Nghymru.

Yn ôl y cyfrifiad diwethaf, mae gan Gymru dros 11,000 o ofalwyr dan 18 oed sy’n gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu. Dyma’r gyfran uchaf o ofalwyr dan 18 oed yn y Deyrnas Unedig.

Ond mae ffigurau Llywodraeth Cymru yn dangos mai dim ond 791 o ofalwyr ifanc oedd yn hysbys i’r awdurdodau lleol yn 2014-15 ac mae hyd yn oed llai na hynny o asesiadau o anghenion wedi eu cwblhau – llai na 10% o’r gofalwyr ifanc yng Nghymru.

Mae Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn dod i rym yng Nghymru heno a bydd yn rhoi hawliau newydd i ofalwyr. Mae’r Ddeddf yn ehangu’r diffiniad o ofalwr sy’n golygu y bydd mwy o bobl nag erioed o’r blaen â’r hawl i gael asesiad gofalwr.

Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu cefnogaeth i ofalwyr ifanc gan cynnwys cymryd y trawsnewidiadau mae gofalwyr ifanc yn ei wneud o’r ysgol i addysg bellach, addysg uwch, a chyflogaeth i ystyriaeth.

Cyfran uchaf yn y DU

Dywedodd Kieron Rees, rheolwr polisi a materion cyhoeddus Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru: “Yn y cyfrifiad diwethaf, Cymru oedd â’r gyfran uchaf o ofalwyr ifanc yn y Deyrnas Unedig, ac rydyn ni’n gwybod fod y ffigur hwn yn debygol o fod yn llawer uwch.

“Mae’r ffaith bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwybod am cyn leied o ofalwyr ifanc yn broblem sy’n rhaid i ni i gyd ei wynebu. Mae’r plant a’r bobl ifanc hyn yn wynebu heriau enfawr yn eu bywydau bob dydd a dyw’r cymorth sydd ei angen arnynt ddim yno’n aml.

“Mae’r Ddeddf hon yn rhoi cyfle i wneud yn iawn wrth ofalwyr ifanc Cymru. Mae’r cyfraniad maen nhw’n ei wneud yn helpu’r GIG a’r gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n amser i ni gydnabod hyn a gwneud yn siŵr eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddysgu, i fyw, ac i ffynnu.”