Sabina Khanom (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru yn chwilio am ddynes sydd ar goll o Abertawe. Does neb wedi gweld Sabina Khanom, 21, ers dydd Sul, Ebrill 3.

Mae wedi’i disgrifio fel gwraig fer, gyda gwallt tywyll at ei hysgwyddau ac un darn o’i gwallt wedi’i liwio’n gringoch.

Mae ganddi lun o neidr cobra ar ei braich chwith. Y gred ydi ei bod hi’n gwisgo bwts du a siaced las tywyll pan aeth hi ar goll.

Roedd Sabina Khanom yn aros yn Abertawe, ond mae ganddi hefyd gysylltiadau gydag ardal Casnewydd.