Joe Marler
Bydd gwrandawiad annibynnol yn cael ei gynnal heddiw yn dilyn sylwadau prop Lloegr am dras ethnig prop Cymru, Samson Lee, yn ystod pencampwriaeth y chwe gwlad eleni.

Mewn neges ar Twitter neithiwr, ymddiheurodd Joe Marler am alw Samson Lee yn ‘gypsy boy’ yn ystod gornest Cymru yn erbyn Lloegr yn Twickenham bron i fis yn ôl.

Dywedodd yn ei neges nad yw’n hiliol ac y byddai’n derbyn dyfarniad y corff llywodraethol.

Bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn Llundain heddiw, a hynny’n dilyn penderfyniad trefnwyr pencampwriaeth y chwe gwlad i ymchwilio i’r achos.

Bydd Terry Willis o Awstralia yn cadeirio’r gwrandawiad annibynnol ynghyd â Jean-Noel Couraud o Ffrainc ac Alan Hudson o Ganada.