Mae adroddiad newydd gan arbenigwyr datganoli treth a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod gwariant y sector cyhoeddus ar gyfer Cymru y llynedd bron i £5 biliwn yn fwy na refeniw’r sector.

Canfu’r adroddiad bod diffyg o £14.7 biliwn ym mantolen gyllidol Cymru yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, sy’n cyfateb i oddeutu 24% o’r amcangyfrif o’r CMC (GDP) .

Mae’r ffigur hwn yn cymharu â diffyg o 4.9% ar gyfer CMC y Deyrnas Unedig gyfan, a £14.9 biliwn, 9.7% o’r CMC, ar gyfer yr Alban.

Er hynny, canfu’r adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd fod mantolen gyllidol Cymru wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf, o ddiffyg o £15.8 biliwn (29.2% o’r amcangyfrif o’r CMC) yn 2010-11.

Yn ogystal, daeth yr adroddiad i’r casgliad mai £38.0 biliwn yw cyfanswm gwariant y sector cyhoeddus yng Nghymru gan lywodraeth ar bob lefel yn 2014-15, tua £12,300 y pen o’i gymharu â chyfartaledd o £11,400 ar draws y DU gyfan.

Gwariant Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol oedd 53% o’r cyfanswm hwn ac roedd gwariant Llywodraeth y DU yn cyfrif am 47% o gyfanswm y gwariant.

Amcangyfrifwyd mai £23.3 biliwn oedd cyfanswm refeniw’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn 2014-15. Roedd refeniw y pen oddeutu £7,500, sy’n llawer is na ffigur y DU ar gyfartaledd, sef oddeutu £10,000.

Heriau

Mae’r adroddiad hefyd yn trafod yr heriau sy’n wynebu fframwaith cyllidol Cymru yn y dyfodol yn sgîl datganoli trethi i Gymru. O ganlyniad i ddatganoli trethi, bydd system ariannu gwariant Cymru’n newid yn sylweddol yn ystod tymor nesaf y Cynulliad.

Canfu’r adroddiad bod refeniw sydd wedi ei ddatganoli, neu a fydd wedi ei ddatganoli’n fuan, wedi codi £4.2 biliwn yn 2014-15.

O’i gymharu â threthi heb eu datganoli fel Treth Ar Werth, sydd wedi dangos twf cadarn dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r refeniw o drethi a gaiff eu datganoli’n fuan wedi aros yn eu hunfan i raddau helaeth.

Dywedodd Ed Poole, darlithydd yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, ac un o awduron yr adroddiad: “Nid yw trosglwyddo rhwng tiriogaethau cyfoethocach a thlotach o fewn gwladwriaeth yn anarferol yn rhyngwladol.

“At hynny, mae’r DU gyfan wedi bod mewn diffyg, ac yn ddibynnol ar fenthyca i wneud iawn am y gwahaniaeth rhwng refeniw a gwariant. Wedi dweud hynny, mae diffyg cyllidol Cymru o £14.7 biliwn, sef oddeutu 24% yr amcangyfrif o’r CMC, yn fwlch sylweddol rhwng y refeniw a godir yng Nghymru a gwariant cyhoeddus Cymru, ac nid oes unrhyw dystiolaeth bod y bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU yn cael ei bontio.

“Mae ffigurau yn amlinellu maint yr her sy’n wynebu Cymru, wrth i wasanaethau cyhoeddus ddod yn fwyfwy dibynnol ar drethi o ffynonellau cartref, megis cyfraddau newydd y Dreth Incwm a Threth Stamp yng Nghymru.”

Datganoli treth yn “bwysig”

Wrth sôn am ganfyddiadau’r adroddiad, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: “Yn wahanol i’r adroddiadau mantolen gyllidol blynyddol a gaiff eu cyhoeddi a’u dosbarthu yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, nid oes adroddiad tebyg wedi canolbwyntio ar y sefyllfa yng Nghymru ers bron i ddau ddegawd.

“Mae hyn wedi golygu bod unrhyw drafodaeth o ddifrif am sefyllfa arian cyhoeddus ein gwlad wedi’i llesteirio’n gyson gan brinder data am wariant cyhoeddus, trethi a data economaidd sylfaenol arall. Mae adroddiad GERW yn rhoi sylw i’r angen hir-sefydlog hwn am well data a gwybodaeth am sefyllfa ariannol gymharol Cymru.

“At hynny, gan ei bod yn debygol mai datganoli trethi fydd un o themâu pwysicaf y Pumed Cynulliad, mae’r adroddiad hwn hefyd yn tynnu sylw at yr heriau sy’n wynebu gwleidyddion Cymru wrth iddynt geisio dod i gytundeb gyda’r Trysorlys ynglyn â’r cwestiwn allweddol o sut yn union i weithredu trethi datganolig. Fel y nodir yn glir yn GERW 2016, mae cannoedd o filiynau o bunnoedd yn y fantol yn y drafodaeth hon.”