Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A547 rhwng Llanddulas a Hen Golwyn neithiwr (nos Sul).

Roedd beic modur du yn rhan o’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua hanner nos neithiwr rhwng Llanddulas a hen Westy 70 Degrees yn Hen Golwyn.

Yn ôl Cwnstabl Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru, Alun Jones, “cafodd y beiciwr modur anafiadau difrifol sydd o bosib yn rhai newid bywyd ond sydd ddim yn rhai sy’n bygwth ei fywyd.

“Rydym yn dal i ymchwilio i amgylchiadau llawn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd mae’n debyg rhywbryd rhwng 11pm a hanner nos.

“Hoffwn glywed gan unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd ac a welodd y gwrthdrawiad yn digwydd neu’r hyn a ddigwyddodd ychydig o funudau ynghynt.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101, neu gysylltu’n ddienw â Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.