Mae swyddfa UKIP yng Nghymru wedi cadarnhau bod pennaeth y wasg y blaid yng Nghymru wedi penderfynu rhoi’r gorau i fod yn ymgeisydd ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad.
Roedd Alexandra Phillips yn ail ar y rhestr i fod yn ymgeisydd UKIP ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru.
Ond, mewn llythyr at arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill, dywedodd ei bod yn dymuno tynnu ei henw oddi ar y rhestr ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad.
Esboniodd ei bod “wedi meddwl yn ddwys” gan ddweud mai “penderfyniad personol” ydyw.
Cyfarfod
Fe fydd Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol yn cyfarfod yn hwyrach heddiw i drafod y mater.
Fe fyddan nhw hefyd yn trafod sylwadau Gareth Bennett – sydd hefyd yn ymgeisydd UKIP ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru.
Fe ddywedodd ar raglen Daily Politics y BBC fod cysylltiad rhwng mewnfudwyr â’r sbwriel yng Nghaerdydd, ac mae cŵyn swyddogol wedi’i wneud yn ei erbyn.