Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff wrth chwilio am ddyn 24 oed yn nociau Aberdaugleddau.

Roedd timau achub wedi bod yn chwilio am Josh Winsper o Gernyw ers bore Sadwrn.

Aeth e ar goll tra bod ei gwch yn nociau Aberdaugleddau, a chafodd Heddlu Dyfed-Powys a Gwylwyr y Glannau eu galw am 11 o’r gloch fore Sadwrn.

Mae ei deulu wedi cael gwybod.