Dydy'r dyn ddim wedi cael ei weld ers bore Sadwrn
Mae timau achub yn parhau i chwilio am ddyn 24 oed o Gernyw aeth ar goll oddi ar arfordir Sir Benfro fore Sadwrn.

Aeth Josh Winsper ar goll tra bod ei gwch yn nociau Aberdaugleddau, a chafodd Heddlu Dyfed-Powys a Gwylwyr y Glannau eu galw am 11 o’r gloch fore Sadwrn.

Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod am ei ddiflaniad.