Omair Abbas (llun: Heddlu De Cymru)
Dywed Heddlu De Cymru eu bod nhw’n fwyfwy pryderus ynghylch diflaniad dyn ifanc o Gaerdydd.

Y tro diwethaf i Omair Abbas, 18 oed, gael ei weld oedd am 5 o’r gloch brynhawn dydd Iau.

Mae ei deulu’n bryderus iawn gan fod yn gwbl groes i’w gymeriad iddo fod ar goll.

Mae’n 6 troedfedd 2 fodfedd o daldra, gyda gwallt tywyll byr a barf. Pan gafodd ei weld ddiwethaf roedd yn gwisgo crys du, trowsus du a siaced ddu.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101 gan nodi cyfeirnod 1600112778.