(llun o wefan Arriva Cymru)
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn casglu barn y cyhoedd ynghylch pa mor rhwydd yw hi i ddefnyddio’r Gymraeg ar fysiau a threnau.

Hyd at 30 Mehefin, bydd cyfle i’r cyhoedd ateb holiadur ar wefan y Comisiynydd i ddweud nodi beth maen nhw’n ei deimlo sy’n rhesymol i gwmnïau bysiau a threnau ei ddarparu’n Gymraeg.

Yr ymchwiliad hwn yw’r cam cyntaf yn y broses o ystyried pa safonau mewn perthynas â’r Gymraeg y gallai’r cwmnïau hyn orfod cydymffurfio â nhw.

“Mae pobl yn defnyddio gwasanaethau trên a bysiau yn ddyddiol ac mae trafnidiaeth yn chwarae rôl ganolog ym mywyd bob dydd pobl,” meddai Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.

“Dyma’r cam diweddaraf yn y broses o weithredu Mesur y Gymraeg. Bydd safonau’n arwain at sefydlu hawliau i ddinasyddion yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg, ac felly mae derbyn barn a thystiolaeth y cyhoedd ar y cam hwn yn rhan bwysig o’r gwaith.”