(llun o wefan y Gwasanaeth Iechyd)
Mae’r arolwg diweddaraf yn dangos y gwelliant mwyaf i gael ei gofnodi erioed yng nghyflwr dannedd plant pump oed yng Nghymru.

Mae lleihad o 12% wedi bod mewn pydredd dannedd plant o’r oedran hwnnw ers 2008, ac mae nifer y dannedd sy’n pydru hefyd wedi lleihau ar gyfartaledd.

Dywed Llywodraeth Cymru fod y gwelliant yn brawf o lwyddiant rhaglen arbennig o weithio gyda phlant o dan chwech oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Mae Cynllun Gwên yn cynnwys brwsio dannedd dan oruchwyliaeth a rhaglenni farnais fflworid i blant bach mewn ysgolion a meithrinfeydd, gan eu helpu i gadw’u dannedd yn iach wrth iddynt dyfu.

“Dyma’r gwelliant mwyaf sylweddol a chyson o ran mynd i’r afael â phydredd dannedd ers cychwyn cofnodi yn y 1980au,” meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford.

“Yr hyn sy’n bwysig yw fod lefelau clefydau deintyddol yn gostwng ar draws yr holl grwpiau cymdeithasol – rydyn ni’n cau’r bwlch rhwng iechyd deintyddol y plant tlotaf a iechyd deintyddol y plant mwyaf breintiedig yng Nghymru,  a hynny er gwaethaf y cyfnod o ddirywiad ariannol.”

“Saith mlynedd ers lansio Cynllun Gwên, mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn gweld manteision y rhaglen hon.”

Ar hyn o bryd, mae 91,290 o blant mewn 1,439 o ysgolion a meithrinfeydd yn cymryd rhan yn yr elfen dan oruchwyliaeth o Gynllun Gwên. Mae hyn yn cynrychioli 59.2% o’r holl blant yn yr oedran cyn-ysgol i flwyddyn dau yng Nghymru.