Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth wedi i rywun ymosod ar ddynes mewn clwb nos yng Nghaerdydd dros benwythnos y Pasg.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig y tu mewn i glwb Kuku yn Ffordd y Brodyr Llwydion tua 1.45yb ddydd Llun, Mawrth 28.

Fe ddioddefodd y ddynes 21 oed nifer o anafiadau i’w hwyneb, ac fe gafodd ei chludo i’r ysbyty i dderbyn triniaeth. Fe gafodd ei hanfon adref yn ddiweddarach.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth, ac wedi rhyddhau’r llun hwn o’r bobol y maen nhw’n awyddus i siarad â nhw.