Osian Roberts
Mae’n anodd dychmygu y gallai Cymru fod wedi llwyddo yn eu nod o gyrraedd Ewro 2016 oni bai am gyfraniad Osian Roberts, yn ôl y dyn roddodd anogaeth iddo ddechrau ar y llwybr hyfforddi.

Fe fydd y gŵr o Fôn yn teithio i Ffrainc yn yr haf yn ei rôl fel is-reolwr y tîm cenedlaethol, gan obeithio gweld y crysau cochion yn serennu ymysg goreuon Ewrop.

Mae’r llwybr i’r brig wedi bod yn un hir i Osian Roberts, sydd wedi bod yn gweithio am flynyddoedd yn datblygu pêl-droed ieuenctid yng Nghymru cyn cael swydd gyda’r tîm hŷn.

Ond mae’n anodd rhoi pris ar y gwaith caled mae wedi’i wneud er mwyn sicrhau ymgyrch lwyddiannus i’r rheolwr Chris Coleman a’r garfan.

“Dw i’n ei weld o pan mae gennym ni gemau cenedlaethol, a dw i’n gwybod faint o waith cartref mae o’n ei wneud , mae’n anhygoel,” meddai Trefor Lloyd Hughes, cyn-lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, wrth golwg360.

“Dw i ddim yn meddwl bysa Chris Coleman yn lle mae o heddiw heblaw am Osian y tu ôl iddo fo.”

Enw da yn Ewrop

Heno (nos Wener), fe fydd hunangofiant Osian Roberts, Cymru a’r Bêl, sydd wedi’i chyhoeddi gan wasg Y Lolfa, Môn, yn cael ei lawnsio yn ei bentref genedigol, Bodffordd.

Yn ogystal â hanes yr ymgyrch lwyddiannus i gyrraedd Ffrainc eleni mae’r llyfr yn sôn am fagwraeth Osian Roberts a’i yrfa bêl-droed cyn iddo droi ei law at hyfforddi.

Trefor Lloyd Hughes, sydd hefyd yn hanu o’r ynys, oedd yr un wnaeth ei annog i fynd yn Swyddog Datblygu Pêl-droed gyda Chyngor Môn.

Ers hynny mae’r ddau wedi gwneud eu marc gyda’r Gymdeithas Bêl-droed, ac yn ôl Trefor Lloyd Hughes mae’r parch mawr tuag waith hyfforddi Osian Roberts yn ymestyn y tu hwnt i Gymru bellach.

“Mae pawb yn gwybod nad ydi o wedi bod yn datblygu mewn clybiau mawr,” meddai cyn-lywydd CBDC.

“Ond mae o’n gwybod ei waith yn dda iawn, ac mae ganddo enw da yn Ewrop. Dw i’n gwybod hynny achos dw i wedi bod i’r cyfandir yn aml … ac maen nhw o hyd yn siarad am Osian Roberts fel un sy’n datblygu pêl-droed ddim jyst yng Nghymru, ond dros Brydain Fawr ac Ewrop.”

Edrych i’r dyfodol

Ar hyn o bryd mae Osian Roberts a Chris Coleman yn paratoi ar gyfer yr Ewros, ble bydd Cymru’n wynebu Slofacia, Lloegr a Rwsia yn eu grŵp cyn gobeithio symud ymlaen i’r rowndiau nesaf.

Ond dyw dyfodol y staff hyfforddi ar ôl yr haf ddim mor sicr, gyda Coleman eto i arwyddo cytundeb newydd i arwain y tîm drwy eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2018.

Fyddai Trefor Lloyd Hughes ddim yn synnu chwaith petai clybiau yn Lloegr yn cynnig swyddi i Osian Roberts hefyd ar sail y gwaith clodwiw mae wedi’i wneud gyda’r tîm cyntaf yn ogystal â thimau ieuenctid Cymru.

“Dw i ddim yn gwybod os oes rhywun wedi bod ar ei ôl o … ond wrth ddweud hynny, wrth iddo fo fod mor llwyddiannus efo’r tîm cenedlaethol rŵan, mae ‘na bosibilrwydd y gallai o fynd,” meddai Trefor Lloyd Hughes.

“Fysa fo fyny iddo fo beth mae o eisiau ei wneud, a dw i’n siŵr bod ganddo fo rywbeth yn ei feddwl.”

Stori: Iolo Cheung