Neil Burgin
Mae’r heddlu yn Aberystwyth yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i ddyn 45 oed yn yr ardal sydd heb ei weld ers dros wythnos.

Mae Neil Burgin yn dod o Swydd Gaerlŷr, a gafodd ei weld diwethaf yng nghanol tref Aberystwyth ar 23 Mawrth am tua 10yb.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn croen wyn, pum troedfedd ac wyth modfedd o daldra â gwallt brown/llwyd byr.

Roedd yn gwisgo siaced ddu, o bosib un o wneuthuriad ‘North Face’.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar y rhif 101.