Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg
Mae rhagor o hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg wedi cael eu cyhoeddi heddiw gan Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.

Mae’r hawliau’n deillio o safonau’r Gymraeg, ac maen nhw’n dod i rym ar unwaith.

Cynghorau sir, Llywodraeth Cymru a’r parciau cenedlaethol sy’n gorfod ufuddhau i’r set gyntaf o safonau. Rhoddodd y Comisiynydd Hysbysiadau Cydymffurfio â safonau i’r 26 sefydliad ar 30 Medi 2015.

Mewn datganiad, dywedodd Meri Huws fod “heddiw’n garreg filltir bwysig yn hanes yr iaith Gymraeg”.

Cyhoeddodd Meri Huws ddechrau cyfnod ymgyrchu i dynnu sylw at yr hawliau newydd, a’r ymgyrch honno’n cynnwys fideo newydd, tudalen ymgyrch ac annog y defnydd o’r hashnod #hawliau ar wefannau cymdeithasol.

Ymateb mudiadau

Wrth ymateb i gyhoeddiad y Comisiynydd, dywedodd cadeirydd Dathlu’r Gymraeg, Penri Williams: “Mae Dathlu’r Gymraeg yn falch o weld Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn cael ei weithredu.

“Mae’r Mesur yn datgan na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae cyfrifoldeb nawr ar y sefydliadau i ddarparu gwasanaethau’n Gymraeg ac mae angen iddynt weithredu’n gadarnhaol er mwyn cynnig darpariaeth deilwng yn y Gymraeg.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, Sioned Hughes: “Un o brif amcanion yr Urdd yw rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc fyw eu bywydau’n llawn drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ac fel mudiad rydym yn croesawu’r datblygiad yma sy’n tanlinellu pwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn ein cymunedau ar hyd a lled Cymru”

‘Damwain a hap’

 

Mae Llywydd Merched y Wawr, Meryl Davies wedi mynegi ei balchder nad “rhywfaint o ddamwain a hap” fydd cael defnyddio’r Gymraeg bellach.

“Fel dinasyddion, rydym angen defnyddio’r gwasanaethau a ddarperir gan y sefydliadau hyn yn ein bywydau bob dydd.

“Hyd yma, rhywfaint o ddamwain a hap oedd hi i dderbyn gwasanaeth Cymraeg, ac roeddent yn aml yn amrywio gan ddibynnu ar le yng Nghymru oeddech yn byw.

“Fel mudiad sy’n cynrychioli aelodau ym mhob cwr o’r wlad, rydym yn croesawu’n fawr bod gan bobl bellach hawliau i ddefnyddio’r iaith lle bynnag yng Nghymru bont yn byw.”

‘Gweithio’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg’ 

Ychwanegodd un o ddarlithwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn adran Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd, Siân Powell: “Yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, rydym yn mynd ati i greu gweithlu ar gyfer Cymru fydd yn gallu gweithio’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’r safonau newydd yn creu’r cyd-destun a’r galw am weithlu dwyieithog, sgilgar, ac mae’r cyfleoedd hyn yn tanlinellu ymhellach fanteision astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.”